Ymddygiad Defnyddwyr a Phrynwyr
- Module Identifier
- CB27220
- Module Title
- Ymddygiad Defnyddwyr a Phrynwyr
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Jonathan Fry
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
AB17120 or CB17120
- Other Staff
- Dr Jonathan Fry
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad ysgrifenedig: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 50% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad ysgrifenedig: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Cymhwyso gwahanol safbwyntiau damcaniaethol ynghylch yr 'Hunan' a sut mae’r rhain yn gysylltiedig ag ymddygiad defnyddwyr.
- Esbonio safbwyntiau am ddefnyddwyr fel unigolion, eu hanghenion a’u cymhellion unigol, gan adnabod sail resymegol ac emosiynol llawer o’u gweithredoedd.
- Disgrifio gwahanol bersbectifau cymdeithasol-ddiwylliannol ynghylch sut, ble, pryd, beth a pham y mae unigolion a grwpiau yn prynu.
- Dangos dealltwriaeth o’r defnyddiwr fel bod cymdeithasol, eu hanghenion cymdeithasol, eu cymhellion, a’u safleoedd o fewn strwythurau cymdeithasol a sut y bydd y rhain yn llywio eu penderfyniadau ynglŷn a phrynu.
Brief description
Mae ymddygiad defnyddwyr a phrynwyr yn canolbwyntio ar sut y mae defnyddwyr yn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â'r eitemau y maent yn eu prynu. Mae hyn yn cynnwys y ddealltwriaeth seicolegol o'r hyn y maent yn ei brynu, pam y maent yn ei brynu, ymhle y maent yn ei brynu, pa mor aml y maent yn ei brynu a pha mor aml y maent yn ei ddefnyddio.
Content
Sylfeini Ymddygiad Defnyddwyr
- Prosesau ymddygiadol
- Canlyniadau ymddygiadol
Dylanwadau seicolegol ar brynwriaeth
- Prosesau emosiynol
- Prosesu gwybyddol
- Personoliaeth a'r Hunan
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Bydd ymchwil cynradd yn gofyn am sgiliau llunio graffiau a sgiliau rhifyddol. |
| Communication | Bydd y seminarau’n gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar a chyflwyno, a bydd y gwaith cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr yn ymwneud â busnes. |
| Improving own Learning and Performance | Cyflawnir hyn trwy’r seminarau, y gwaith cwrs a’r trafodaethau yn y darlithoedd. |
| Information Technology | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn aml. Cyflwyno gwybodaeth a data. Defnyddio e-bost/y rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o sgiliau, credoau a rhinweddau personol, mewn perthynas â chynnydd ar y cwrs/gyrfaol – bydd y myfyrwyr yn gallu trosi theori yn ymarfer a dysgu yn ddealltwriaeth. |
| Problem solving | Nodi problemau. Nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl. Datblygu dulliau o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl. Llunio ymateb rhesymegol i broblem. |
| Research skills | Deall ystod o ddulliau ymchwil. Cynllunio a chynnal ymchwil. Defnyddio ymchwil cynradd i drosi elfennau o theori yn ymarfer. |
| Subject Specific Skills | Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymchwil ym maes ymddygiad cwsmeriaid. Ymdrinnir ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ymddygiad cwsmeriaid, er enghraifft: canfyddiad, cymhelliant, agweddau a gwerthoedd, y rhan mae strwythurau cymdeithasol yn ei chwarae wrth lunio hunaniaethau cwsmeriaid, ac ati. |
| Team work | Bydd ymarferion yn y dosbarth a gwaith yn y seminarau yn gyfle i’r myfyrwyr wella eu sgiliau gweithio mewn tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Contact for this page:
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
