Traethawd Estynedig

Module Identifier
CB35540
Module Title
Traethawd Estynedig
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Jonathan Fry
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
AB25320 or CB25320
Other Staff
Dr Wyn Morris
Mrs Nerys Fuller-Love
Dr Jonathan Fry

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Poster: 500 o eiriau 10%
Semester Assessment Traethawd Hir: 10000 o eiriau 90%
Supplementary Assessment Traethawd Hir: 10000 o eiriau 90%
Supplementary Assessment Poster: 500 o eiriau 10%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Asesu a chloriannu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol.
  2. Llunio adolygiad o destunau perthnasol.
  3. Cynllunio a chynnal ymchwil yn ymwneud â busnes.
  4. Dadansoddi canlyniadau a’u cyflwyno.
  5. Cyflwyno trafodaeth, casgliadau ac argymhellion dilys.
  6. Nodi unrhyw oblygiadau perthnasol yn ymwneud â rheolaeth neu bolisi.
  7. Adlewyrchu ar sut y gall y sgiliau academaidd a'r sgiliau byd gwaith a ddatblygwyd yn ystod y modiwl gael eu cymhwyso tuag at cyflogaeth yn y dyfodol neu astudiaethau pellach

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn cyfuno sgiliau rheoli busnes, marchnata, economeg, cyllid busnes a rheoli twristiaeth o fewn fframwaith astudiaeth fanwl o bwnc a ddewisir gan y myfyriwr, dan arweiniad aelodau o staff academaidd. Darperir cymorth trwy ddarlithoedd ar dechnegau ymchwil, rheoli prosiectau, goblygiadau rheolaethol, gweithdai, seminarau a goruchwyliaeth.

Content

Nid oes maes llafur penodol. Mae'r darlithoedd, y seminarau a'r gweithdai yn cynnig arweiniad cyffredinol ar ddylunio a methodoleg ymchwil. Gellir dewis pwnc ar gyfer y prosiect ymchwil o unrhyw faes yn ymwneud ag economeg, cyllid, busnes a rheolaeth, marchnata neu reoli twristiaeth, ar yr amod bod digon o ddeunydd darllen addas ar gael, a bod aelod o staff ar gael i arolygu yn y maes astudio dan sylw. Dewisir y pwnc mewn ymgynghoriad â chydlynydd y modiwl ac aelodau eraill o staff ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd
Communication Trwy arolygu, datblygu’r cynnig ymchwil, monitro cynnydd, adolygu drafft
Improving own Learning and Performance Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu’r sgiliau i allu dysgu’n annibynnol
Information Technology Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data, ac wrth baratoi a chyflwyno’r adroddiad
Personal Development and Career planning Hunan-reolaeth, blaengaredd, gallu gweithio’n annibynnol, a hunan-ymwybyddiaeth
Problem solving Trafod mewn darlithoedd paratoadol, datblygu cynnig prosiect a rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith mewn ymchwil ac wrth gwblhau adroddiad.
Research skills Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o amryw ffynonellau er mwyn paratoi adroddiad.
Subject Specific Skills Cymhwyso sgiliau ansoddol a meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol

Notes

This module is at CQFW Level 6