Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol

Module Identifier
CC12320
Module Title
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Faisal Rezwan
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CS12320
Other Staff
Dr Faisal Rezwan
Dr Tomos Fearn
Mr Malcolm Hutchison

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Aseiniad unigol: Aseiniad rhaglennu cymharol fawr gyda 2000 o eiriau yn yr adroddiad gyda chod Java. 60%
Semester Assessment Cwisiau yn y dosbarth (hyd at 5): 1 Hours Cwisiau Blackboard sy'n cynnwys Cwestiynau Dewis Lluosog, Gwir/Gau, paru, a phroblemau rhaglennu. 1 Awr 40%
Supplementary Assessment Aseiniad unigol: Aseiniad rhaglennu cymharol fawr gyda 2000 o eiriau yn yr adroddiad gyda chod Java. 60%
Supplementary Exam Arholiad ar-lein: 1 Hours Cwis Blackboard sy'n cynnwys Cwestiynau Dewis Lluosog, Gwir/Gau, paru, a phroblemau rhaglennu. 1 Awr 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Disgrifio ac esbonio'r prif wahaniaethau rhwng rhaglennu gweithdrefnol a rhaglennu gwrthrych-gyfeiriadol
  2. Dod o hyd i wrthrychau, dosbarthau a dulliau ar sail datganiad problem, a thrwy hynny ddangos y gallu i gymhwyso cysyniadau haniaethau ac amgau.
  3. Mapio diagramau achos-defnyddio, dosbarth a dilyniant UML ar god gwrthrych-gyfeiriadol.
  4. Datblygu rhaglen gwrthrych-gyfeiriadol hanfodol sy'n cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr graffigol, a thrwy hynny ddangos y gallu i ddelio a rhaglennu syml a yrrir gan ddigwyddiadau.
  5. Dangos y gallu i gymhwyso cysyniadau cyfansoddiad, etifeddiad ac amryffurfedd.
  6. Dangos, mewn cod gwrthrych-gyfeiriadol, sut i ymdrin ag amodau gwallau.
  7. Dangos, mewn cod gwrthrych-gyfeiriadol, sut i storio ac adalw data i ac o ffeiliau

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Yn benodol, bydd yn edrych y defnydd o'r patrwm gwrthrych-egyfeiriado, a'i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd nodiant UML (Iaith Fodelu Unedig) yn cael eu diffinio a'u defnyddio fel bo'n briodol. Mae'n darparu sylfaen ar gyfer modiwlau Rhan 2 sy'n defnyddio ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol, megis CS21120 - Data Structures and Algorithms, a CS22120 - The Software Development Life Cycle.

Aims

Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar CS12020 Introduction to Programming. Bydd yn edrych ar y modd y caiff y patrwm gwrthrych-gyfeiriadol ei ddefnyddio a’i ymgorffori yn iaith raglennu Java. Bydd yn cael ei ddysgu ar y cyd ag CS10720 – Problems and Solutions, a bydd yn diffinio ac yn defnyddio UML wrth fodelu gofynion a dylunio.

Content

Bydd patrwm dysgu wythnosol y modwil hwn yn cynnwys 2 sesiwn ddysgu 2 awr dan arweiniad darlithydd mewn labordy cyfrifiadura mawr. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i roi cyflwyniadau byr, i'w dilyn gan ymarferion ymarferol a chwisiau perthnasol. Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael sesiwn diwtorial 1 awr mewn grwpiau bach i wneud ymarferion dylunio a chodio mewn timau.

1. Gweithdai rhagarweiniol i roi blas o'r gwahanol bynciau a drafodir yn ystod y modiwl: Y syniad o ddosbarth a gwrthrych. Storio data mewn newidynnau achlysuron. Dulliau. Co^d beit (bytecode) a Pheiriant Rhithwir Java. Rhaglenni sy'n rhedeg o offeryn amgylchedd datblygu integredig. Adolygu cysyniadau o semester un a ddefnyddir yn Java: newidynnau, profion amodol, dolenni.
2. Cysyniadau sylfaenol. Archwilio gwrthrychau a dosbarthau. Diagram dosbarth UML. Newidynnau achlysuron, dulliau a pharamedrau, diagramau gwrthrych. Y berthynas rhwng dosbarthiadau ar modd y'u cynrychiolir mewn diagramau dosbarth. Mapio rhaglen weithredol syml o semester un i raglen Java.
3. Adolygu cysyniadau sylfaenol. Darllen o'r allweddell. Cyfeiriadau nwl. Rhedeg rhaglenni o'r llinell orchymyn. Sylwadau Javadoc. Confensiynau enwi. Tiwtorial ar ddefnyddio'r dechneg Dosbarthau, Cyfrifoldebau a Chydweithredu.
4. Mathau a chydraddoldeb. Chwilio, llwytho a chadw. Darllen o ffeiliau, ac ysgrifennu i ffeiliau. Iteriadau dros Gasgliadau Java, araeau Java, diagramau dilyniant UML.
5. Addaswyr mynediad. Pecynnau a ffeiliau JAR. Yr addasydd sefydlog. Bwrw golwg arall ar haniaethu ac amgau. Cydweddu'r dyluniad a'r modd mae'n cael ei weithredu. Ro^l diagramau achos-defnyddio a'u perthynas a^ diagramau dosbarth a sut maent yn cael eu rhoi ar waith.
6. Canolbwyntio ar etifeddiad, amryffurfedd, rhyngwynebau a dosbarthiadau haniaethol. Trosreoli'r dull hafalu. Dosbarthiadau o eithriadau.
7. Rhyngwynebau defnyddiwr graffigol. Rhaglennu a yrrir gan ddigwyddiadau. Gwahanu cyfrannau.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Natur y pwnc
Communication Cyfathrebu mewn ystyr technegol drwy ddiagramau UML
Improving own Learning and Performance O'r adborth a ddarperir gan staff a chyd-fyfyrwyr trwy'r drefn asesu gan gymheiriaid
Information Technology Natur y pwnc
Personal Development and Career planning Darperir rhagor o wybodaeth ynghylch beth mae peiriannwyr meddalwedd yn ei wneud
Problem solving Datrys sgiliau dylunio a chodio
Research skills Sgiliau cyfrifiadura sylfaenol
Subject Specific Skills Diagramau UML, sgiliau datblygu co^d, defnyddio amgylcheddau datblygu integredig.
Team work Sesiynau tiwtorial

Notes

This module is at CQFW Level 4