Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura

Module Identifier
CC38220
Module Title
Materion Proffesiynol yn y Diwydiant Cyfrifiadura
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr James Finnis
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CS38220
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Asesiad Cyflogadwyedd: 2000 o eiriau 30%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 70%
Supplementary Assessment Asesiad Cyflogadwyedd: 2000 o eiriau 30%
Supplementary Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 70%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Asesu yn feirniadol berfformiad economaidd a chynlluniau cwmni cyfrifiadurol bach, a photensial economaidd syniad cychwynnol.
  2. Cymhwyso deddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chyfrifiadura a chodau ymddygiad proffesiynol i sefyllfaoedd ddydd i ddydd sy'n codi mewn busnes, a gwerthuso risgiau sy'n gysylltiedig â'r sefyllfaoedd hynny.
  3. Datblygu cynllun gyrfa strategol a gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i'w gyflawni.
  4. Asesu'r math o waith a wneir gan gwmni cyfrifiadurol ac i resymu mathau o gyfleoedd a heriau gyrfa sydd ar gael o fewn y cwmni hwnnw.
  5. Gwerthuso'r goblygiadau rheoli i gwmni o ran materion amrywiaeth a chydraddoldeb, iechyd a diogelwch, TG gwyrdd, rheoli diogelwch ac adnoddau dynol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn mynd i’r afael â llawer o’r materion annhechnegol sy’n hanfodol i fyfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa broffesiynol yn y diwydiant meddalwedd. Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall llawer o'r materion a fydd yn codi wrth iddynt ddilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg. Yn benodol, mae ein graddau wedi'u hachredu gan y BCS, ac mae'r BCS yn ystyried y mathau o bynciau sy'n cael sylw yn y modiwl hwn fel rhan angenrheidiol o addysg unrhyw weithiwr TG proffesiynol siartredig.

Aims

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno deunydd ym meysydd allweddol proffesiynoldeb a gyrfaoedd, cyllid, iechyd a diogelwch, pryderon amgylcheddol, y gyfraith ac eiddo deallusol mewn modd unedig, yng nghyd-destun y diwydiant meddalwedd. Dysgir peth deunydd rhagarweiniol o'r math hwn ar adegau priodol mewn modiwlau eraill ar lefelau is. Mae'r modiwl hwn yn dod â'r holl ddeunydd hwnnw ynghyd ar lefel briodol ar gyfer myfyriwr graddedig sy'n ymuno â'r diwydiant meddalwedd.

Content

Cyflwyniad i'r cwrs [1]

Materion cyfreithiol: Troseddol v cyfraith sifil. Camddefnyddio Cyfrifiaduron, RIPA, Diogelu data a phreifatrwydd data. IPR. Contractau meddalwedd a thrwyddedu. [5]

Materion rheoli: Strwythur sefydliadau, Rheoli Diogelwch, Rheoli Cynaliadwyedd, Rheoli risg, Adnoddau Dynol, rheolaeth 360 gradd, proffesiynoldeb, y BCS, Cydraddoldeb ac amrywiaeth. [8]

Busnes: Busnesau Newydd. Cynllunio. Costio a phrisio. Elw a cholled. Marchnata. [6]

Gyrfaoedd: Penderfynu ar yrfa. Dod o hyd i'r swydd iawn ar gyfer eich gyrfa. Paru eich sgiliau â hysbysebion swyddi. Cyfweliadau - beth i'w ddisgwyl, sut i ateb cwestiynau anodd, beth i'w ofyn. Sgyrsiau gan gwmnïau cynrychioliadol yn y diwydiant meddalwedd. [9]

Crynodeb o'r modiwl [1]

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Dealltwriaeth o sefydliadau sy'n bwysig ar gyfer gyrfa; Datblygu sgiliau cyflogadwyedd
Co-ordinating with others Amherthnasol
Creative Problem Solving Ym mhob aseiniad ymarferol
Critical and analytical thinking Trwy ddeunydd ariannol, a asesir yn yr arholiad
Digital capability Yn gynhenid i'r pwnc.
Professional communication Ym mhob aseiniad ymarferol
Real world sense Yn yr aseiniad cyflogadwyedd
Reflection Yn yr aseiniad cyflogadwyedd
Subject Specific Skills Amherthnasol

Notes

This module is at CQFW Level 6