Module Information

Cod y Modiwl
CT10420
Teitl y Modiwl
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Dadansoddiad beirniadol o destun penodol  1500 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad syn cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 15 Munud  30%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar o ddadl gyfreithiol  15 Munud  30%
Asesiad Semester Dadansoddiad beirniadol o destun penodol  1500 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth ymarferol sylfaenol o sgiliau ysgrifennu academaidd yn gyffredinol, a sgiliau a ffurfiau penodol i astudiaeth o’r Gyfraith a pharatoad dogfennau cyfreithiol.


Arddangos cynefindra gyda darllen, ymchwilio ac astudiaeth o ddogfennau cyfreithiol, a chronfeydd data cyfreithiol gyda sylw arbennig ar ddeddfwriaeth a chyfraith achos.

Defnyddio sgiliau sylfaenol o ddadansoddiad beirniadol / datrys problemau gyda chyfeiriadaeth at ddeunyddiau cyfreithiol.

Arddangos sgiliau llafar/ymryson/eiriolaeth a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno dadl gyfreithiol gadarn.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr yn y sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni astudiaethau cyfreithiol.

Cynnwys

Mae’r modiwl yn darparu myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyda’r sgiliau allweddol er mwyn astudio’r Gyfraith. (Gweler y canlyniadau dysgu ar gyfer rhestr llawn o’r sgiliau hyn).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Seminarau rhyngweithiol a datblygiad dadleuon cyfreithiol trwy eiriolaeth ar lafar gyda myfyrwyr eraill mewn ymryson.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith ei gynnig a sut y caiff y Gyfraith ei addysgu yn y brifysgol.
Datrys Problemau Trwy ddadansoddi ac adnabod meysydd cyfreithiol amrywiol, egwyddorion cyfreithiol, datblygiad dadleuon cyfreithiol yn seiliedig ar senario damcaniaethol.
Gwaith Tim Caiff myfyrwyr eu hannog trwy waith grŵp mewn seminar a timau ymryson i weithio gyda’u cyfoedion.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff myfyrwyr eu hannog a’u harwain i reoli eu amser astudio annibynnol.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Paratoi dadl gyfreithiol; ysgrifennu cyfreithiol, ymchwil cyfreithiol, sgiliau eiriolaeth, dulliau cyfreithiol, darllen cyfraith achos, darllen deddfwriaeth, paratoi dadleuon ysgerbwd ar gyfer ymryson.
Sgiliau ymchwil Defnydd o gronfeydd cyfreithiol, Primo Aber, Google Scholar.
Technoleg Gwybodaeth Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol hanfodol i’w hastudiaethau ac ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4