Cyfraith Droseddol

Module Identifier
CT10520
Module Title
Cyfraith Droseddol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Angharad James
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CT20520 or LC20520
Exclusive (Any Acad Year)
CT30520 or LC30520
Exclusive (Any Acad Year)
LC10520
Other Staff
No staff with Userid: MAC21

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Semester Assessment Perfformiad Seminar: 20%
Semester Exam Arholiad na gwelir ymlaen llaw: 1.5 Hours 1.5 Awr 40%
Supplementary Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Supplementary Exam Arholiad na gwelir ymlaen llaw: 1.5 Hours 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cydnabod ac egluro'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i'r gyfraith droseddol, a dadansoddi'n feirniadol eu perthnasedd a'u cymhwyso i droseddau ac amddiffynfeydd penodol.
  2. Nodi a dadansoddi'r elfennau sy'n sail i atebolrwydd troseddol, sef yr ymddygiad a'r elfennau meddyliol, a'r eithriadau i'r rhain.
  3. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o bob elfen gyfansoddol berthnasol o droseddau ac amddiffynfeydd mawr - mewn deddfwriaeth ac yn y gyfraith gyffredin - a'u cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn datrys problemau.
  4. Gwerthuso a dadansoddi cwmpas y gyfraith droseddol, ei phroblemau cyfredol, a'r opsiynau ar gyfer diwygio a gynigiwyd yn arbennig gan Gomisiwn y Gyfraith.
  5. Llunio dadleuon rhagarweiniol ar sail y gyfraith a'r dystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau darllen, deall a chymhwyso'r testunau cyfreithiol perthnasol (boed yn achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol.

Brief description

Mae'r modiwl yn nodi egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud â mens rea (elfen feddyliol) a'r actus reus (elfen ymddygiad) o droseddau, cyn mynd ymlaen i edrych ar droseddau sylweddol llofruddiaeth; dynladdiad; amddiffynfeydd rhannol; troseddau rhywiol; cymryd rhan mewn trosedd; troseddau nad ydynt yn angheuol yn erbyn y person; troseddau eiddo; troseddau adfer: amddiffynfeydd analluogrwydd a chyflyrau meddyliol ac amddiffynfeydd cyffredinol.

Content

Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall ac archwilio'n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y sy'n gysylltiedig ag astudio cyfraith droseddol. Bydd yn rhoi gwybodaeth i myfyrwyr am egwyddorion cyfraith droseddol y mae'r mwyafrif o droseddau yn seiliedig arnynt, a'r meini prawf allweddol wrth nodi'r troseddau mwyaf difrifol, megis lladdiad a throseddau rhywiol. Byddant hefyd yn cael gwybod am yr achosion allweddol, a deddfwriaeth sy'n llywodraethu'r gyfraith droseddol.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Bydd y modiwl yn datblygu medrau cyfathrebu ysgrifenedig myfyrwyr trwy'r arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu medrau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i osod gwaith ar y seminarau.
Improving own Learning and Performance Mae cyfranogiad seminarau a pharatoi arholiadau yn datblygu agweddau gwahanol ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio ffynonellau trwy ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu medrau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol i baratoi ar gyfer seminarau a gwaith a asesir.
Personal Development and Career planning Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw ystyried ystyried gweithio mewn cyfundrefn ymarfer troseddol / cyfiawnder troseddol.
Problem solving Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau myfyrwyr mewn sawl ffordd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn eu harholiad.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a syntheseiddio ystod o ddeunydd ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac i'w harchwilio.
Subject Specific Skills Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer statud a chyfraith achosion Darllen ffynonellau cynradd yn y ffordd o achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo i archwilio arddull datrys problemau, ac, yn ehangach, yn y proffesiwn cyfreithiol.
Team work Bydd y seminarau'n cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu meddyliau gyda gweddill y dosbarth.

Notes

This module is at CQFW Level 4