Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Module Identifier
- CT20120
- Module Title
- Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Angharad James
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT10120 or LC10120
- Exclusive (Any Acad Year)
-
LC20120
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd Ysgrifenedig: 2500 o eiriau | 40% |
| Semester Assessment | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Semester Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 2 Hours 2 Awr | 40% |
| Supplementary Assessment | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: | 20% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Ysgrifenedig: 2500 o eiriau | 40% |
| Supplementary Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 2 Hours 2 Awr | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth dda o’r system gyfreithiol a’r system cyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithio rhwng y ddwy.
- Bod yn gyfarwydd a ffynonellau’r gyfraith a sut i ganfod ac adnabod ffynonellau o’r fath.
- Bod yn gyfarwydd a gweithdrefnau’r llys ac achosion llys.
- Gallu dadansoddi a chloriannu agweddau ar y System Gyfreithiol a’r System Cyfiawnder Troseddol.
Brief description
Bydd y modiwl hwn yn ymgorffori holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cynnig trosolwg o’r system cyfiawnder troseddol. Bydd y ddau bwnc yn cael eu hintegreiddio i fodiwl sy’n cyflwyno’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio a’i gilydd.
Content
Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.
Bydd myfyrwyr yn ystyried y pethau canlynol mewn perthynas a’r system gyfreithiol, strwythur y llysoedd a hierarchaeth y llys a sut y mae hyn yn berthnasol i gyfraith achosion ac athrawiaeth cynsail. Astudir deddfwriaeth ac egwyddor dehongli statudol, yn ogystal â sut y mae’r Senedd yn deddfu. Proffesiwn y gyfraith, gan gynnwys y farnwriaeth, bargyfreithwyr a chyfreithwyr ac ynadon; rheithgor; systemau gwrthwynebus/ymchwiliol; ADR (Alternative Dispute Resolution); bydd tribiwnlysoedd yn ganolbwynt i’r astudiaethau o fewn elfen y system gyfreithiol. O ran y system cyfiawnder troseddol, ystyrir disgresiwn a phwerau’r heddlu ac effaith PACE. Bydd gweithgor y treial/ystafell llys yn cael ei astudio a’i gysylltu a’i swyddogaeth o fewn y system gyfreithiol. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dedfrydu, gan gynnwys dedfrydau o garchar/di-garchar a rheolau/gweithdrefnau carchar.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Seminarau rhyngweithiol. |
| Improving own Learning and Performance | Ymchwilio a pharatoi ar gyfer seminarau. |
| Information Technology | Systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil. |
| Personal Development and Career planning | Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor am y gwahanol gyfleoedd y mae graddau yn y gyfraith/troseddeg yn eu cynnig. |
| Problem solving | Seminarau rhyngweithiol. |
| Research skills | Ymchwilio i gronfeydd data ar y gyfraith. |
| Subject Specific Skills | Deall dulliau cyfreithiol. |
| Team work | Seminarau rhyngweithiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
