Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol

Module Identifier
CT20420
Module Title
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Nathan Gibbs
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT10120 or CT20120 or LC10120 or LC20120
Exclusive (Any Acad Year)
LC20420
Exclusive (Any Acad Year)
CT10420 or LC10420
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Llafar: Ymryson cyfreitha dadl gyfreithiol ar lafar. 20 Munud 40%
Semester Assessment Traethawd ysgrifenedig: - Dadansoddiad beirniadol o destun penodol 2000 o eiriau 40%
Semester Assessment Perfformiad mewn Seminarau: 20%
Supplementary Assessment Traethawd ysgrifenedig: - Dadansoddiad beirniadol o destun penodol 2000 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Adolygiad Seminarau: 1000 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Dadl ysgrifenedig: Ymryson cyfreitha dadl gyfreithiol ar lafar. 20 Munud 40%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos gwybodaeth ymarferol dda o sgiliau ysgrifennu academaidd yn gyffredinol, a sgiliau ysgrifennu a fformatau penodol ar gyfer astudio’r gyfraith a pharatoi dogfennau cyfreithiol.
  2. Dangos eu bod yn gyfarwydd a darllen, ymchwilio ac astudio dogfennau cyfreithiol a chronfeydd data cyfreithiol, gan roi sylw arbennig i ddeddfwriaeth a chyfraith achosion.
  3. Defnyddio sgiliau dadansoddi beirniadol/datrys problemau uwch mewn perthynas â darllen deunyddiau cyfreithiol.
  4. Dangos sgiliau da o ran cyflwyno llafar/ymryson cyfreitha/eiriolaeth a’r gallu i ddatblygu a chyflwyno dadl gyfreithiol gadarn.
  5. Gallu dangos eu bod yn gallu llunio dadleuon cyfreithiol cadarn.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn darparu cyflwyniad trylwyr i’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i astudio’r gyfraith.

Content

Mae’r modiwl yn rhoi i fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf/blwyddyn mynediad eu hastudiaethau y sgiliau academaidd sydd eu hangen i astudio’r gyfraith. (Gweler y canlyniadau dysgu am restr fanwl o’r sgiliau dan sylw). Bydd y modiwl yn darparu cyflwyniad trylwyr i’r sgiliau sydd eu hangen i astudio’r gyfraith. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond bydd yn cynnwys dadansoddi beirniadol, eiriolaeth (gan ganolbwyntio’n benodol ar ymryson cyfreitha), darllen achosion, llunio nodiadau achos, darllen deddfwriaeth, ffynonellau cyfreithiol, defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, dulliau cyfreithiol, rhesymu cyfreithiol, ysgrifennu traethodau a phapurau cyfreithiol ac ati.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Seminarau rhyngweithiol a datblygu dadleuon cyfreithiol trwy eirioli ar lafar gyda myfyrwyr eraill mewn ymrysonau cyfreitha.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn cael eu cynghori a’u hannog i reoli eu hamser astudio annibynnol.
Information Technology Mae systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol yn hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil.
Personal Development and Career planning Bydd myfyrwyr yn cael cyngor ynghylch y cyfleoedd amrywiol y mae gradd yn y gyfraith yn eu cynnig, a sut y caiff y gyfraith ei ddysgu yn y brifysgol.
Problem solving Trwy ddadansoddi a nodi gwahanol feysydd o’r gyfraith, egwyddorion y gyfraith; datblygu dadleuon cyfreithiol wedi’u seilio ar sefyllfaoedd damcaniaethol.
Research skills Defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, Aber Primo, Google Scholar.
Subject Specific Skills Paratoi dadl gyfreithiol; ysgrifennu cyfreithiol; ymchwil gyfreithiol; sgiliau eiriolaeth; dulliau cyfreithiol; darllen cyfraith achosion; darllen deddfwriaeth; paratoi amlinelliad o ddadleuon ar gyfer yr ymryson cyfreitha.
Team work Bydd gwaith grwp mewn seminarau a chymryd rhan mewn timau ymryson cyfreitha mewn parau yn annog y myfyrwyr i gydweithio a’u cyd-fyfyrwyr.

Notes

This module is at CQFW Level 5