Cyfraith Fentro Byd-Eang

Module Identifier
CT20920
Module Title
Cyfraith Fentro Byd-Eang
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Nathan Gibbs
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Adroddiad Beirniadol 1: 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Adroddiad Beirniadol 2: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Adroddiad Beirniadol 2: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Adroddiad Beirniadol 1: 2000 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Egluro arwyddocad strwythurau cyfreithiol craidd gwahanol systemau cyfreithiol byd-eang.
  2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos cymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau priodol ynglŷn ag ystod o systemau cyfreithiol byd-eang.
  3. Dangos dealltwriaeth o'r modd y mae diwylliant yn rhyngweithio gyda systemau cyfreithiol.
  4. Defnyddio egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag astudiaethau cyfreithiol yng nghyd-destun byd-eang.

Brief description

Bydd y cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i werthuso eu cysylltedd byd-eang trwy'r Gymraeg. Trwy ansawdd unigryw ein hiaith a'n diwylliant y gallwn greu perthnasoedd newydd ar lefel fyd-eang. Mae cyfathrebu yn y byd cyfoes yn gyflym ac yn hylif. Gellir profi syniadau, cysyniadau a gwasanaethau sydd wedi'u hychwanegu a'u datblygu yn ein hiaith a'n diwylliant ein hunain a'u hyrwyddo ym meysydd perfformiadau, addurno a dylunio cynnyrch byd-eang.
Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfreithiol yn hanfodol.
Archwilir nodweddion cyffredinol gwahanol 'deuluoedd' cyfreithiol byd-eang i ddarparu'r map sy'n galluogi ymgysylltiad ymarferol â'r gyfraith mewn gwahanol systemau cyfreithiol ar gyfer ystod o brosiectau athronyddol, gwyddonol, masnachol, diwylliannol a pholisi cyhoeddus. Bydd y cwrs yn paratoi'r myfyriwr i ymgymryd ag ystod eang o brosiectau entrepreneuraidd byd-eang sy'n cynnwys rhyngweithio â gwahanol ddiwylliannau cyfreithiol ac ar gyfer archwilio cyfleoedd entrepreneuraidd a chyflogaeth mewn lleoliad byd-eang.

Content

1. Systemau Rhufeinig-Almaeneg (ee. Ffrainc a’r Almaen)
2. Systemau Islamaidd yng Nghyd-Destun Cyfoes
3. Cyfraith Gyffredin yng Nghyd-Destun Byd-Eang
4. Cyfraith yn Asia

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Deall ar draws gwahanol ddiwylliannau a systemau cyfreithiol a ddatblygwyd mewn dosbarthiadau ac asesiadau
Co-ordinating with others Gweithgareddau grŵp a thrafodaethau yn y dosbarthiadau yn paratoi'r sgiliau i gwblhau'r asesiad
Creative Problem Solving Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau/cwblhau asesiadau
Critical and analytical thinking Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau/cwblhau asediadau
Digital capability Ymchwil ac wrth baratoi ar gyfer y dosbarthiadau a’r asesiad
Professional communication Bydd cymryd rhan mewn dosbarthiadau a’r aseasiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Real world sense Daltblygu dealltwriaeth o'r modd y mae diwylliant yn rhyngweithio gyda systemau cyfreithiol.
Reflection Cwestiynu syniadau presennol am y gyfraith drwy archwilio arferion mewn diwylliannau eraill

Notes

This module is at CQFW Level 5