Module Information

Cod y Modiwl
CT21120
Teitl y Modiwl
Cyfraith Camwedd
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2500 gair)  50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig  (2500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Nodi ac esbonio egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd mewn manylder, yn ogystal â dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.

2. Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.

3. Dangos dealltwriaeth dda o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.

4. Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith camwedd, nodi problemau cyfredol mewn modd rhesymegol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.

5. Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr â chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a chloriannu cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.

6. Llunio dadleuon credadwy ac argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.

Cynnwys

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.

Cynnwys
  • Cyflwyniad i gyfraith camwedd
  • Camweddau bwriadol yn erbyn y person
  • Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
  • Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
  • Amddiffyniadau i esgeuluster
  • Niwsans
  • Rylands v Fletcher
  • Difenwad
  • Diogelu preifatrwydd
  • Atebolrwydd am anifeiliaid

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn yr arholiad.
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5