Module Information

Module Identifier
CT23820
Module Title
Cyfraith Cytundebau
Academic Year
2024/2025
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Reading List

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  2 Awr  50%
Supplementary Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw  2 Awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Nodi ac egluro egwyddorion sylfaenol cyfraith contractau a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.

Nodi, dadansoddi a chloriannu’r elfennau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer contract sy’n gyfreithiol-rwym.

Dangos dealltwriaeth dda o’r modd y caiff contract ei lunio a’i orfodi.

Cloriannu a dadansoddi cwmpas cyfraith contractau, gan nodi problemau ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.

Llunio dadleuon argyhoeddiadol ar sail y gyfraith a ffeithiau o achosion perthnasol er mwyn datblygu sgiliau i ddarllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; ac i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol mewn modd soffistigedig ac effeithiol.

Brief description

Mae’r modiwl yn egluro’r gofynion cyffredinol ar gyfer contract dilys. Mae hefyd yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a’r partïon i’r contract. Astudir hefyd wahanol agweddau ar delerau’r contract. Yn ogystal, mae’r modiwl yn edrych ar gyflawni a thorri contract, a’r rhwymedïau sydd ar gael.

Content

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.

Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion allweddol yr amrywiol feysydd a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.

Cynnwys

Cyflwyniad i Gyfraith Contractau

Ffurfio Contract

Cydnabyddiaeth

Gorfodaeth

Cymhwystra & Chyfreithlondeb

Preifatrwydd Contract

Telerau Pendant ac Ymhlyg

Dosbarthiadau Telerau

Ymgorffori Telerau

Dehongli Telerau

Cymalau Eithrio

Camliwio Contract

Camgymeriad

Dylanwad Gormodol

Llesteirio Contract

Cyflawni a Thorri Contract

Rhwymedïau

Adferiad

Module Skills

Skills Type Skills details
Communication Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Improving own Learning and Performance Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.
Personal Development and Career planning Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol
Problem solving Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn yr arholiad.
Research skills Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Subject Specific Skills Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Team work Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.

Notes

This module is at CQFW Level 5