Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau

Module Identifier
CT24920
Module Title
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Nathan Gibbs
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT10120 or CT10420 or CT20120 or LC10120 or LC10420 or LC20120
Exclusive (Any Acad Year)
LC24920
Exclusive (Any Acad Year)
CT34920 or LC34920
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.
  2. Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
  3. Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.

Brief description

Sefydlir Ymddiriedau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.

Content

1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a
gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau

2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedolaeth
Cymhwystra gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo

3. Etifeddiant

4. Ymddiriedau Elusennol

5. Cymdeithasau Anghorfforedig

6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr

7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp.
Improving own Learning and Performance Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.
Problem solving Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau.
Research skills Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.
Subject Specific Skills Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd.
Team work Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau.

Notes

This module is at CQFW Level 5