Troseddau & Chyfiawnder Ieuenctid

Module Identifier
CT26120
Module Title
Troseddau & Chyfiawnder Ieuenctid
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Miss Demi John
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT12220 or CT22220 or LC12220 or LC22220
Exclusive (Any Acad Year)
LC26120
Other Staff
Miss Demi John

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol i blant.: Ymateb creadigol i gyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, a fyddai’n cynnwys rhywbeth wedi’i anelu at blant i hwyluso eu dealltwriaeth o’u beiusrwydd troseddol yn 10 oed (felly byddai angen bod yn briodol i’w hoedran, a gallai fod - ond nid ydynt yn gyfyngedig i - fideo, taflen, poster, cân, rap ac ati). 2000 o eiriau 50%
Semester Exam Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours 2 Awr 50%
Supplementary Assessment Cyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol i blant.: Ymateb creadigol i gyfathrebu am isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol, a fyddai’n cynnwys rhywbeth wedi’i anelu at blant i hwyluso eu dealltwriaeth o’u beiusrwydd troseddol yn 10 oed (felly byddai angen bod yn briodol i’w hoedran, a gallai fod - ond nid ydynt yn gyfyngedig i - fideo, taflen, poster, cân, rap ac ati). 2000 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours - ailsefyll os methwyd 2 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
  2. Disgrifio sut y mae troseddau ieuenctid, ymddygiad gwyrdroedig ac erledigaeth yn cael eu llunio’n gymdeithasol ac yn gyfreithiol.
  3. Dadansoddi’r rhesymau y tu ol i droseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol trwy gyfeirio at ymchwil i agweddau seicolegol a chymdeithasegol llencyndod a’r newid i fod yn oedolyn.
  4. Gwerthfawrogi sut y mae trafodaethau gwleidyddol penodol, barn boblogaidd a’r cyfryngau torfol yn dylanwadu ar drafodaethau polisi’n ymwneud a throseddau ieuenctid.
  5. Adnabod y prif faterion, polisïau, prosesau a sefydliadau mewn perthynas a throseddu ieuenctid a’r modd y caiff troseddwyr ifanc eu trin.
  6. Esbonio i ba raddau y mae’r prif ddamcaniaethau a phersbectifau troseddegol wedi llwyddo i egluro’r rhesymau dros droseddau ieuenctid a sut i fynd i’r afael a’r broblem.
  7. Disgrifio a chloriannu polisïau ac ymyriadau o fewn y system cyfiawnder troseddol a gynlluniwyd i leihau troseddau ieuenctid a newid patrymau troseddu ieuenctid.
  8. Dangos ymwybyddiaeth o wahanol ddulliau a thechnegau ymchwil a ddefnyddir i archwilio natur troseddau ieuenctid a pha mor gyffredin yw troseddau o’r fath.
  9. Disgrifio sut y mae strwythurau swyddogol ac answyddogol, dulliau a phrosesau gorfodi’r gyfraith droseddol, polisïau cyhoeddus a systemau cosbi yn cyfrannu at yr ymgais i reoli ac atal troseddau ieuenctid ac ymddygiad gwyrdroedig.

Brief description

Mae pobl ifanc yn cael eu cysylltu fwyfwy ag ymddygiad troseddol a gwrth-gymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar y cysylltiad hwnnw ac yn mynd i’r afael a’r materion cymdeithasol a rheoli cymhleth sy’n gysylltiedig a’r maes astudio hwn. Bydd yn adeiladu ar wybodaeth a ddysgwyd ar y cyrsiau sylfaen cynharach ynglyn a pham fod pobl yn troseddu, a’u rhoi yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid a dangos sut y’u defnyddir i gefnogi mentrau polisi. Bydd yn cloriannu llawer o’r mentrau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal a chyflwyno’r myfyrwyr i gysyniad a realiti gweithio rhyngasiantaethol.

Content

Deall plentyndod a datblygiad plant
Pryd y mae plentyn yn blentyn?
Datblygiad cyfiawnder ieuenctid
‘Troseddu ieuenctid’ – lluniad cymdeithasol?
Persbectifau datblygiadol a chwrs bywyd
Damcaniaethau am Ffactorau Risg
Persbectifau strwythurol a systemig ar droseddu ieuenctid
Trais ieuenctid a gangiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: atal a dargyfeirio, cyfiawnder a lles, a dulliau sy’n canolbwyntio ar risgiau
Ymdrin a throseddu ieuenctid: dulliau adferol
Ymdrin a throseddu ieuenctid: seiliedig ar hawliau, a Phlant yn Gyntaf, Troseddwyr yn Ail
Ieuenctid yn y ddalfa ac ailsefydlu effeithiol
‘Ymataliad’ mewn cyfiawnder ieuenctid
Beth yw’r dyfodol i gyfiawnder ieuenctid?

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd myfyrwyr yn adolygu casgliadau astudiaethau sy’n gysylltiedig a’r maes, ac yn mynd i’r afael a nhw.
Communication Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad). Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Information Technology Bydd chwilio am ddeunydd o ffynonellau gwybodaeth electronig ar-lein a chyrchu gwybodaeth o gyfnodolion electronig yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Defnyddir sgiliau TG i gael gafael ar wybodaeth ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn cyflwyno gwaith i’w asesu wedi’i baratoi ar brosesydd geiriau.
Personal Development and Career planning Bydd paratoi ar gyfer y seminarau a’r aseiniadau asesedig yn datblygu sgiliau rheoli amser. Bydd coladu ffynonellau ar gyfer asesiadau yn datblygu sgiliau ymchwil. Bydd meithrin gwerthfawrogiad o faterion damcaniaethol cymhleth yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol. Bydd yr holl sgiliau hyn yn cyfrannu at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy
Problem solving Bydd cymhathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y seminarau a'r aseiniadau yn annog meddwl ochrol.
Research skills Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i destunau perthnasol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grwp.
Subject Specific Skills Amherthnasol
Team work Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grwp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tim.

Notes

This module is at CQFW Level 5