Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad poster Cyflwyniad poster gyda crynodeb ysgrifennedig 1,500 o eiriau 10 Munud | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio Lleoliad Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Cais am leoliad Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad proffesiynol Adolygiad proffesiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad llafar neu poster yn cynhadledd myfyrwyr 10 Munud | 20% |
| Asesiad Semester | Portffolio Lleoliad Mwyafswm 4,000 o eiriau + tystiolaeth e.e. llawlyfrau hyfforddi, taflenni amser, canllawiau asiantaeth ac ati) yn cynnwys sylwebaeth adfyfyriol sy'n tynnu ar y cysylltiadau a arsylwyd rhwng y dystiolaeth a'r arfer. | 50% |
| Asesiad Semester | Adolygiad Proffesiynol Adolygiad professiynol gan sefydliad lleoliad 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Semester | Cais am leoliad Sicrhau lleoliad addas at ddibenion cwblhau'r modiwl 500 o eiriau | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Sicrhau a chynnal lleoliad gwaith am gyfnod gofynnol (isafswm o 10 diwrnod / 75 awr)
Dangos dealltwriaeth gymhwysol o gysyniadau a damcaniaethau troseddeg mewn amgylchedd proffesiynol
Gwerthuso'n feirniadol rôl, swyddogaeth a chyd-destun gweithredol y sefydliad lleoliad
Cymhwyso egwyddorion moesegol priodol, cyfrinachedd a chynnal ymddygiad proffesiynol yn unol â disgwyliadau'r sefydliad
Dangos sgiliau cyflogadwyedd datblygedig, gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, gwaith tîm a hunanreolaeth
Cynhyrchu gwaith asesedig myfyriol ac analiticaidd sy'n integreiddio llenyddiaeth academaidd gyda phrofiad y lleoliad
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gymhwyso gwybodaeth droseddegol, sgiliau ymchwil a safbwyntiau damcaniaethol mewn lleoliad proffesiynol. Trwy leoliad sylweddol yn y gweithle (neu sawl lleoliad llai) gyda sefydliadau perthnasol - megis yr heddlu neu unedau atal trosedd, gwasanaethau prawf neu wasanaethau cefnogi ailsefydlu, asiantaethau cymorth i ddioddefwyr, NGOau/elusennau sy'n gweithio gyda throseddwyr, dioddefwyr neu grwpiau agored i niwed, timau ymchwil academaidd neu gymhwysol neu bartneriaethau diogelwch cymunedol - bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol, yn gwella cyflogadwyedd ac yn myfyrio'n feirniadol ar y berthynas rhwng damcaniaeth a gweithredu troseddegol. Ar ôl hyfforddiant, disgwylir iddynt gyflawni o leiaf nifer penodol o oriau mewn gwaith gwirfoddol neu waith â thâl. Rhaid i'r lleoliad(au) gael eu cymeradwyo gan gydlynydd y modiwl cyn dechrau. Rhaid i fyfyrwyr gael goruchwyliwr penodol / pwynt cyswllt yn y sefydliad. Anogir myfyrwyr hefyd i ymgysylltu uniongyrchol â'r sector cyfiawnder troseddol mewn ffyrdd eraill (e.e. cynadleddau, ymweliadau safle a chyfleoedd cysgodi).
Cynnwys
Cyflwyniad i waith asiantaethau cyfiawnder troseddol
Cyflwyniad i waith maes a'i beryglon
Ymarfer myfyriol
Ymddygiad proffesiynol yn gweithle
Hyfforddiant sgiliau cyflwynol a gynigir gan sefydliadau
Profiad lleoliad
Adolygu a chyfarwyddyd ar ymarfer myfyriol
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Sicrhau lleoliad gwaith ac ymweithio mewn amgylchedd proffesiynol fydd yn heriol ac yn gofyn i fyfyrwyr fod yn hyblyg ac yn amyneddgar yn eu dulliau gweithredu |
| Cydlynu ag erail | Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn dibynnu ar waith tim felly bydd y modiwl yn hanfodol yn gwella sgiliau gweithio fel tim |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd cyfathrebu llafar yn cael ei annog a'i ddatblygu yn ystod trafodaethau seminar rhyngweithiol ac yn eu rhyngweithiadau â chydweithwyr a/neu gleientiaid yn ystod eu lleoliad gwaith, ac yn cael ei asesu yn y Gynhadledd Myfyrwyr. Bydd sgiliau ysgrifenedig yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy'r portffolio adfyfyriol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Yn ystod eu lleoliad bydd angen iddynt ddatrys llawer o faterion ymarferol, a fydd yn datblygu ac yn gwella sgiliau myfyrwyr mewn datrys problemau beirniadol ac ymarferol. |
| Gallu digidol | Bydd chwiliadau mewn cronfeydd data electronig ar-lein a chylchgronau yn darparu ymarfer mewn sgiliau TG. Yn dibynnu ar eu lleoliadau, mae disgwyl i'r myfyrwyr hefyd ddod ar draws systemau casglu cronfeydd data newydd ar gyfer gwybodaeth cleientiaid. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd datblygiad sgiliau penodol i'r pwnc yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr, ond bydd cynnwys a lled y sgiliau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. |
| Synnwyr byd go iawn | Bydd y lleoliad yn galluogi myfyrwyr i brofi rhai o'u dysgu troseddegol mewn cyd-destun cymhwysol |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
