Cyfraith Troseddol
- Module Identifier
- CT30520
- Module Title
- Cyfraith Troseddol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Dr Angharad James
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CT10120 or CT10420 or CT20120 or LC10120 or LC10420 or LC20120
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT10520 or CT20520 or LC10520 or LC20520 or LC30520
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Semester Assessment | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Semester Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours 2 Awr | 40% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Supplementary Assessment | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau | 20% |
| Supplementary Exam | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw: 2 Hours 2 Awr | 40% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Adnabod ac esbonio’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i gyfraith trosedd, a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y cânt eu cymhwyso i droseddau ac amddiffyniadau penodol.
- Adnabod a dadansoddi’r elfennau sy’n sail i atebolrwydd troseddol, sef yr elfen ymddygiad a’r elfen feddyliol, a’r eithriadau i’r rhain.
- Dangos dealltwriaeth o bob elfen berthnasol sy’n rhan o droseddau ac amddiffyniadau o bwys – mewn deddfwriaeth ac yn y gyfraith gyffredin – a’u cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn datrys problemau.
- Gwerthuso cwmpas cyfraith trosedd, ei phroblemau ar hyn o bryd, a’r opsiynau ar gyfer ei diwygio sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith yn enwedig.
- Llunio dadleuon darbwyllol a chryf ar sail y gyfraith a’r dystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau darllen, deall a chymhwyso’r testunau cyfreithiol perthnasol (boed hwy’n achosion neu’n ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol, a dehongli a dadansoddi’n feirniadol reolau a thestunau cyfreithiol sy’n ymwneud â chyfraith trosedd.
Brief description
Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall ac archwilio’n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y dadleuon a’r pynciau llosg sy’n gysylltiedig ag astudio cyfraith trosedd. Bydd yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am yr egwyddorion cyfraith trosedd y mae’r rhan fwyaf o droseddau yn seiliedig arnynt, a’r meini prawf allweddol ar gyfer adnabod y troseddau mwyaf difrifol, megis lladdiadau a throseddau rhywiol. Byddant hefyd yn cael gwybod am yr achosion allweddol a’r ddeddfwriaeth sy’n llywio cyfraith trosedd. Fel modiwl craidd at ddibenion eithriadau proffesiynol, bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i’r egwyddorion sylfaenol allweddol sy’n sail i gyfraith trosedd ar gam cynnar yn eu hastudiaethau, gan bwysleisio’r rhan y mae’r egwyddorion hyn yn ei chwarae mewn bywyd pob dydd. Yna bydd y modiwl yn adeiladu ar sail yr egwyddorion hyn trwy ganolbwyntio ar y troseddau mwyaf difrifol. Bydd yn creu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn cael eu hysgogi i ddysgu mwy yn sgil chwilfrydedd. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i adolygu’r hyn sy’n hysbys, canfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen i ddatrys materion o sylwedd mewn cyfraith trosedd, a pharhau â’r chwilio i ganfod ac archwilio’n feirniadol atebion newydd i hen broblemau. Ymhlith yr amcanion dysgu ar gyfer myfyrwyr bydd: defnyddio gwybodaeth a ddaw o ddeddfwriaeth neu gan awdurdod barnwrol yn feirniadol, a gallu creu, cyflwyno a gwrthbrofi dadleuon o fewn y fframwaith athrawiaethol presennol.
Content
Mae’r modiwl yn amlinellu’r egwyddorion cyffredinol sy’n ymwneud â’r mens rea (yr elfen feddyliol) a’r actus reus (yr elfen ymddygiad) o droseddau, cyn symud ymlaen i edrych ar droseddau o sylwedd llofruddiaeth; dynladdiad; amddiffyniadau rhannol; troseddau rhywiol; cymryd rhan mewn troseddau; troseddau nad ydynt yn rhai angheuol yn erbyn y person; troseddau yn erbyn eiddo; troseddau cychwynnol: amddiffyniadau o analluogrwydd a chyflyrau meddyliol ac amddiffyniadau cyffredinol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau. |
| Improving own Learning and Performance | Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu. |
| Personal Development and Career planning | Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol. |
| Problem solving | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau ac yn eu harholiad. |
| Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad. |
| Subject Specific Skills | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statud a chyfraith achosion Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith. |
| Team work | Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
