Module Information

Cod y Modiwl
CT30920
Teitl y Modiwl
Cyfraith Fentro Byd-Eang
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Beirniadol 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Beirniadol 2  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Adroddiad Beirniadol 1  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Adroddiad Beirniadol 2  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Egluro a dadansoddi arwyddocad strwythurau cyfreithiol craidd gwahanol systemau cyfreithiol byd-eang.

Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau priodol ynglŷn ag ystod o systemau cyfreithiol byd-eang.

Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r modd y mae diwylliant yn rhyngweithio gyda systemau cyfreithiol.

Defnyddio egwyddorion cyfreithiol perthnasol yn hyblyg wrth egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag astudiaethau cyfreithiol yng nghyd-destun byd-eang.

Disgrifiad cryno

Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfreithiol yn hanfodol. Archwilir nodweddion cyffredinol gwahanol 'deuluoedd' cyfreithiol byd-eang i ddarparu'r map sy'n galluogi ymgysylltiad ymarferol â'r gyfraith mewn gwahanol systemau cyfreithiol ar gyfer ystod o brosiectau athronyddol, gwyddonol, masnachol, diwylliannol a pholisi cyhoeddus. Bydd y cwrs yn paratoi'r myfyriwr i ymgymryd ag ystod eang o brosiectau entrepreneuraidd byd-eang sy'n cynnwys rhyngweithio â gwahanol ddiwylliannau cyfreithiol ac ar gyfer archwilio cyfleoedd entrepreneuraidd a chyflogaeth yng nghyd-destun byd-eang

Cynnwys

1. Systemau Rhufeinig-Almaeneg (ee. Ffrainc a’r Almaen)
2. Systemau Islamaidd yng Nghyd-Destun Cyfoes
3. Cyfraith Gyffredin yng Nghyd-Destun BydEang
4. Cyfraith yn Asia

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Deall ar draws gwahanol ddiwylliannau a systemau cyfreithiol a ddatblygwyd mewn dosbarthiadau ac asesiadau
Cydlynu ag erail Gweithgareddau grŵp a thrafodaethau yn y dosbarthiadau yn paratoi'r sgiliau i gwblhau'r asesiad
Cyfathrebu proffesiynol Bydd cymryd rhan mewn dosbarthiadau a’r aseasiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Datrys Problemau Creadigol Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau/cwblhau asesiadau
Gallu digidol Ymchwil ac wrth baratoi ar gyfer y dosbarthiadau a’r asesiad
Meddwl beirniadol a dadansoddol Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau/cwblhau asediadau
Myfyrdod Cwestiynu syniadau presennol am y gyfraith drwy archwilio arferion mewn diwylliannau eraill
Synnwyr byd go iawn Daltblygu dealltwriaeth o'r modd y mae diwylliant yn rhyngweithio gyda systemau cyfreithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6