Module Information

Cod y Modiwl
CT33340
Teitl y Modiwl
Datrys Problemau ac Ymgynghori mewn Troseddeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cais i'r Grŵp Ymgynghori  Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Log Adlewyrchol  Log adlewyrchol unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Poster  Cyflwyniad poster unigol gyda crynodeb ysgrifenedig o 1500 i grynhoi'r cyflwyniad. 2500 o eiriau  15%
Asesiad Ailsefyll Gweithgaredd Darlledu  Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigol. 1000 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad  Adroddiad ysgrifennedig sy'n crybwyll yn gryno'r materion a'r atebion realistig a gynigir. 1000 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad Llenyddol  Adolygiad llenyddol grŵp 1000 o eiriau  20%
Asesiad Semester Log Adlewyrchol  Log myfyrio unigol o gyfarfodydd. 2000 o eiriau  20%
Asesiad Semester Cais i'r Grŵp Ymghynori  Cais i sicrhau lle mewn grŵp ymgynhori (unigol). 300 o eiriau  10%
Asesiad Semester Adroddiad Grŵp  Adroddiad ysgrifennedig sy'n crynhoi'r materion yn fyr ac yn cynnig atebion realistig (gradd grŵp). 1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar Grŵp  Cyflwyniad llafar grŵp yn y gynhadledd myfyrwyr 15 Munud  15%
Asesiad Semester Gweithgaredd Darlledu Grŵp  Cyfathrebu canfyddiadau mewn modd hygyrch i gynulleidfa ddi-arbenigedd. 2000 o eiriau  25%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddol grŵp  3000 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cwblhau cais i grŵp ymgynghori, gan gynhyrchu crynodeb proffesiynol sy'n nodi eich prif gryfderau a gwendidau ar gyfer y rôl.

Dadansoddi'n feirniadol problem droseddegol byd go iawn gan ddefnyddio damcaniaeth berthnasol, ymchwil, polisi a chyd-destunau sy'n seiliedig ar ymarfer.

Datblygu sgiliau ymgynghori gan gynnwys diffinio problemau, ymholiad ymchwil a rhesymu dadansoddol i lywio datrys problemau.

Gweithio'n effeithiol mewn tim i ymchwilio, cynllunio, dylunio a chynnal prosiect ymgynghori bach.

Cynhyrchu ac ynni'n arloesol argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymarfer a pholisi, a'u cyfathrebu'n effeithiol.

Meithrin ymwybyddiaeth adfyfyriol a moesegol mewn gwaith troseddegol cymhwysol.

Syntheseiddio llenyddiaeth academaidd ac arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa.

Gweithio'n llwyddiannus gyda rheolwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiect effeithiol, hunan-gyfeiriad a datrys problemau drwy gydol y prosiect.

Disgrifiad cryno

Fel dewis arall yn lle modiwl traethawd hir, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect mawr gan weithredu fel ymgynghorwyr ar broblem droseddegol go iawn. Gan weithio mewn grwpiau bach ochr yn ochr ag aelod o staff (neu glwstwr ymchwil), bydd myfyrwyr yn ceisio goresgyn mater penodol sy’n ymwneud ag ardal benodol o droseddeg (e.e., cyfiawnder ieuenctid, camgymeriadau cyfiawnder, plismona, cam-drin domestig, cyn-filwyr, troseddau torfol, troseddeg werdd, troseddau treftadaeth ac ati).
Mae’r modiwl hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddangos arferion gwaith cydweithredol, sgiliau ymchwil, datrys problemau a chyflwyno canfyddiadau drwy ddulliau anghonfensiynol (e.e., gweledol, clywedol, artistig ac ati). Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr nad ydynt yn sicr am bwnc ymchwil annibynnol, ond sydd yn awyddus i ddatblygu profiadau trosglwyddadwy allweddol sy’n gysylltiedig â hynny, i ymgolli mewn pwnc ymchwil troseddegol penodol.

Cynnwys

Bydd myfyrwyr yn cael eu harwain drwy fenter datrys problem gan oruchwyliwr (neu oruchwylwyr) sydd wedi enwebu maes ymchwilio penodol cyn dechrau pob blwyddyn academaidd. Gan weithio’n gydweithredol o fewn pob clwstwr, bydd angen i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi tystiolaeth, cynhyrchu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu adroddiad ymgynghori proffesiynol a chyflwyniad ar broblem droseddegol benodol fel y nodwyd. Mae’r modiwl yn cyfuno damcaniaeth droseddegol, ymchwil gymhwysol a datrys problemau byd go iawn. Ei nod yw datblygu sgiliau dadansoddi ymarferol, gweithio mewn partneriaeth a chyfathrebu proffesiynol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes cyfiawnder troseddol, diogelwch cymunedol, polisi ac ymchwil gymdeithasol gymhwysol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd angen i fyfyrwyr addasu eu dull yn ôl eu hymchwil ar broblemau go iawn ac greu deunyddiau lledaenu a fydd yn apelio at gynulleidfa eang.
Cydlynu ag erail Mae'r prosiect hwn yn gofyn i bob aelod o'r tim ymgynghori weithio'n agos gyda'i gilydd, cyfarfod yn rheolaidd a rhannu tasgau rhyngddynt.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yn ofynnol i ddisgyblion cynhyrchu adroddiadau addas ar gyfer eu dosbarthu'n broffesiynol yn y maes, a ystod o ddeunyddiau dosbarthu i addasu i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys Llywodraeth a phobl sy'n gwneud polisiau, ymarferwyr, unigolion (gan gynnwys plant, os yw'n berthnasol) a'r cyhoedd ehangach.
Datrys Problemau Creadigol Disgwylir i fyfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth troseddol i broblem o'r byd go iawn er mwyn creu datrysiadau posibl.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr greu portffolio digidol o'r gwaith, gan gynnwys deunyddiau lledaenu wedi'u cynllunio'n ddigidol. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gyflwyno gan ddefnyddio meddalwedd cyflwyniadau yn y gynhadledd flynyddol i fyfyrwyr.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd disgyblion angen ysgrifennu adolygiad beirniadol o lenyddiaeth a rhagweld anawsterau bywyd go iawn sy'n ymwneud a'r problemau/atebion a gynigir.
Synnwyr byd go iawn Bydd angen i'r prosiect cyfan gael ei leoli'n amlwg o fewn sefyllfaoedd byd go iawn ac wrth fynd i'r afael a'r materion byd go iawn a ganfuwyd drwy broses y cynghorydd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6