Cyfraith Tir

Module Identifier
CT34820
Module Title
Cyfraith Tir
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
No staff with Userid: MAC21
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CT10120 or CT10420 or CT20120 or LC10120 or LC10420 or LC20120
One of the above must be taken as a pre-requisite.Students are also advised to take either CT24920/ CT34920 Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, LC24920/LC34920 Equity and Trusts as a pre-requisite for this module.
Exclusive (Any Acad Year)
CT24820 or LC24820 or LC34820
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau 50%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 50%
Supplementary Assessment Aseiniad drafftio cyfreithiol: 2000 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Egluro mewn modd manwl yr egwyddorion cyfreithiol Cyfraith Tir
  2. Dadansoddi sefyllfaoedd ffeithiol yn ymwneud â chyfraith tir a chymhwyso’n feirniadol egwyddorion cyfraith tir i’r sefyllfaoedd hynny.
  3. Gwneud ymchwil annibynnol ar agweddau o’r gyfraith a chymryd rhan mewn modd beirniadol wrth drafodaethau a safbwyntiau gwahanol ynglŷn â’r gyfraith bresennol, y problemau posibl a’r diwygiadau posibl.
  4. Dangos tystiolaeth o allu dadansoddi’n feirniadol ystod eang o ddeunyddiau cyfreithiol a’u hintegreiddio i ffurfio persbectifau newydd.
  5. Dangos tystiolaeth o allu egluro sut mae’r gyfraith yn gweithio i’r rhai nad oes ganddynt gefndir cyfreithiol.
  6. Gallu dadlau sut i gymhwyso’r gyfraith i bartïon mewn anghydfod – gan gyflwyno achos y naill a’r llall a chloriannu pa un yw’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol.
  7. Gallu cyfleu canlyniadau yn ysgrifenedig yn effeithiol ar lefel academaidd gan ddefnyddio’r derminoleg berthnasol a chyfeirnodi deunydd yn y modd priodol.
  8. Gallu cymhwyso mewn modd manwl yr wybodaeth sydd ganddynt eisoes i sefyllfaoedd newydd
  9. Deall agweddau allweddol o gyfraith tir, gan gynnwys dysgu gwybodaeth gydlynol a manwl, a bydd o leiaf peth o’r wybodaeth yn rheng flaenaf rhai agweddau diffinedig o’r ddisgyblaeth, neu wedi’i llywio ganddi.
  10. Defnyddio technegau dadansoddi ac ymchwil sefydledig yn gywir o fewn disgyblaeth
  11. Llunio a chynnal dadleuon manwl, a/neu ddatrys problemau, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau, rhai ohonynt yn rheng flaenaf y ddisgyblaeth
  12. Disgrifio a rhoi sylwadau ar agweddau penodol o ymchwil cyfredol, neu ysgoloriaeth uwch cyfatebol, yn y ddisgyblaeth
  13. Gwerthfawrogi ansicrwydd, amwysedd a chyfyngiadau gwybodaeth
  14. Rheoli eu dysgu eu hunain, a defnyddio adolygiadau ysgolheigaidd a ffynonellau cynradd (er enghraifft, erthyglau ymchwil wedi eu dafarnu a/neu ddeunyddiau gwreiddiol sy’n briodol i’r ddisgyblaeth).

Brief description

Amcan y pwnc yw cyflwyno’r myfyrwyr i egwyddorion hanfodol perchnogaeth Tir yng Nghymru a Lloegr, a hawliau pobl eraill dros dir, a dulliau gorfodi’r hawliau hynny, gan gynnwys y cyd-berchennog ecwitïol, y prydleswr a’r morgeisiai, y cyfamodai a pherchennog y rhandir trech at ddibenion caniatáu hawddfraint.

Content

1. Beth yw tir?
2. Pa elfennau sydd i gyfraith tir?
3. Perchnogaeth a chydberchnogaeth tir
4. Prydlesi
5. Morgeisi
6. Hawddfreintiau
7. Cyfamodau

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Amherthnasol
Communication Gwaith paratoi a thrafodaethau yn y seminarau
Improving own Learning and Performance Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grŵp. Asesiadau ffurfiannol trwy sesiynau ymarfer yn y dosbarth.
Information Technology Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.
Personal Development and Career planning Bydd yr hyn a ddysgir ar y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith.
Problem solving Paratoi ar gyfer cwestiynau datrys problemau yn y seminar a’u trafod
Research skills Ymchwil ar ôl darlithoedd ac wrth baratoi ar gyfer seminarau.
Subject Specific Skills Ymchwil cyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol pwrpasol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion.
Team work Gwaith seminar: paratoi a thrafod mewn grwpiau

Notes

This module is at CQFW Level 6