Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
- Module Identifier
- CT34920
- Module Title
- Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Nathan Gibbs
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CT10120 or CT10420 or CT20120 or LC10120 or LC10420 or LC20120
One of the above modules must be taken as a pre-requisite. - Exclusive (Any Acad Year)
-
CT24920 or LC24920 or LC34920
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Semester Exam | Arholiad: 2 Hours 2 Awr | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Exam | Arholiad Ail-Sefyll: 2 Hours 2 Awr | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.
- Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
- Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.
- Dadansoddi problemau cymhleth yng nghyfraith ecwiti ac ymddiriedau yn feirniadol, cymwyso’r egwyddorion cyfreithiol a astudiwyd i’r problemau hynny, gan gloriannu dadleuon neu ddatrysiadau eraill.
Brief description
Sefydlir Ymddiriedolaethau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ol cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'n ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.
Content
1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau
2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedaeth
Cymhwystra
gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau
bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau
natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo
3. Etifeddiant
4. Ymddiriedau Elusennol
5. Cymdeithasau Anghorfforedig
6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr
Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr
7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Amherthnasol |
| Communication | Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Information Technology | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
| Problem solving | Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau. |
| Research skills | Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad. |
| Subject Specific Skills | Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd. |
| Team work | Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
