Module Information

Cod y Modiwl
CT35040
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster  Cyflwyniad Poster gyda chrynodeb o 1,500 o eiriau 3000 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  Prosiect ymchwil ysgrifenedig 8000 - 10000 o eiriau. Dylai'r myfyriwr ailysgrifennu'r traethawd hir (ar yr un thema) gan ddefnyddio'r adborth a ddarparwyd gan y marciwr yn y cyflwyniad gwreiddiol. Disgresiwn y goruchwyliwr ynghylch a ddylid rhoi goruchwyliaeth ychwanegol.  60%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Adfyfyriol  Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Cais am gymeradwyaeth foesegol  1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad  Cyflwyniad (llafar neu boster) yng Nghynhadledd y Myfyrwyr 10 Munud  20%
Asesiad Semester Adroddiad Adfyfyriol  Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Cais am gymeradwyaeth foesegol  1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Traethawd estynedig  8000-10,000 o eiriau ar gyfer y prosiect ymchwil ysgrifenedig.  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyflwyno, lleoli a gwerthuso cwestiwn ymchwil troseddegol/cyfreithiol yn feirniadol, mewn perthynas â'r llenyddiaeth ymchwil ehangach, y gellir ei brofi trwy brosiect ymchwil estynedig

Cymhwyso a chynnal methodoleg/methodolegau ymchwil priodol i ymgymryd ag ymchwil ar gwestiwn(au) ymchwil penodol

Dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion moesegol proffesiynol a fframweithiau moesegol sefydliadol sy'n briodol i'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyluniad ymchwil a fwriadwyd

Cymhwyso llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa

Dangos y gallu i gasglu, dehongli a gwerthuso data a dod i gasgliadau yn seiliedig ar y canfyddiadau a'u gosod yng nghyd-destun ehangach materion cyfreithiol, damcaniaethol, polisïol ac ymarferol y gwyddorau cymdeithasol

Cynhyrchu traethawd estynedig sydd wedi'i strwythuro'n dda, yn gydlynol ac yn wreiddiol, gan ddangos dadansoddiad beirniadol a thrylwyredd academaidd.

Gweithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiectau, hunangyfeirio a datrys problemau annibynnol effeithiol drwy gydol y broses ymchwil.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg yn fodiwl annibynnol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, mater i’r myfyriwr yw dylunio, cynllunio, cynnal a chyflwyno astudiaeth wreiddiol ar bwnc dewisol sy'n berthnasol i'w maes astudio. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu rhagdybiaethau neu gwestiwn(au) ymchwil addas, cydymffurfio ag egwyddorion moesegol y Brifysgol, adolygu llenyddiaeth bresennol, cymhwyso dulliau ymchwil priodol, dadansoddi canfyddiadau a chynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig sylweddol o dan oruchwyliaeth academaidd. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr gyflwyno eu prif ganfyddiadau yng nghynhadledd myfyrwyr yr Adran.

Cynnwys

Mater i’r myfyriwr yw dewis pwnc ar gyfer ymchwil fanwl gyda chymeradwyaeth a chefnogaeth yr oruchwyliwr.
Wrth ymgymryd ag yr ymchwiliad manwl ar bwnc troseddegol/ cyfreithiol, bydd sesiynau dysgu ar gael i gefnogi'r myfyriwr i ymgymryd ag astudiaeth ymchwil fanwl ac i gefnogi myfyrwyr i gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.
Darperir cefnogaeth benodol i'r pwnc drwy'r broses oruchwylio mewn tiwtorialau unigol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo sgiliau datrys problemau a rheoli amser. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth gan eu goruchwyliwr ond yn y bôn byddant yn gweithio'n annibynnol wrth ddylunio, ymchwilio, cynllunio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig
Cydlynu ag erail Bydd angen i fyfyrwyr weithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig er mwyn cyflawni nod cyffredin.
Cyfathrebu proffesiynol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf eu traethodau estynedig a bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hasesu trwy gyflwyniadau. Disgwylir iddynt hefyd gyfathrebu a gweithio gyda'u goruchwyliwr mewn modd proffesiynol.
Gallu digidol Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio chwilio am ffynonellau trwy gronfeydd data electronig (megis Web of Science a Primo). Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd yn ystod y modiwl gan gynnwys Excel, PowerPoint ac SPSS ar gyfer Windows.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y traethawd estynedig yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol am eu maes ymchwil penodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Y prosiect yw uchafbwynt dysgu myfyrwyr mewn cyfraith a/neu droseddeg, sydd wedi datblygu drwy gydol y cynllun gradd.. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o agweddau a chysyniadau allweddol eu disgyblaeth. Bydd gwerthfawrogiad o natur ymchwil foesegol yn y gyfraith a/neu'r gwyddorau cymdeithasol hefyd yn cael ei archwilio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6