Traethawd Ymchwil Cyfreithiol o dan Arweiniad
- Module Identifier
- CT39020
- Module Title
- Traethawd Ymchwil Cyfreithiol o dan Arweiniad
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Nathan Gibbs
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CT10120 or CT10420 or LC10120 or LC10420
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CT35040 or LC35040 or LC39020
- Other Staff
- Dr Nathan Gibbs
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad Cyflwyniad (llafar neu boster) yng Nghynhadledd : 10 Munud | 20% |
| Semester Assessment | Traethawd Ymchwil dan Arweiniad: i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. 4000 o eiriau | 80% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Ymchwil dan Arweiniad: i’w gyflwyno ar ddiwedd semester 2. 4000 o eiriau | 80% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad poster gyda chrynodeb: 500 o eiriau | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dysgu’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil mewn maes cyfraith a/neu droseddeg o’u dewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil hwn mewn modd clir a dealladwy
- Cymhwyso’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwlau perthnasol i’w dewis faes o fewn cyfraith
- Cynnal ymchwil annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth.
- Darparu cyflwyniad rhesymegol a chlir ac ysgrifennu eu canfyddiadau.
- Adolygu a chyflwyno corff cydlynol o wybodaeth mewn trafodaeth ac ysgrifennu yn feirniadol.
- Gellir crynhoi canlyniadau'r hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r modiwl fel a ganlyn: (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau drwy ddewis pwnc ymarferol ar gyfer ymchwil; (b) Adolygu, gwerthuso a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gafwyd a'r materion a nodwyd (c) i ddatblygu'r sgiliau sy'n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn parhaus o ymchwil dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu'r gallu i drefnu syniadau a threfn ddeunydd ar gyfer cyflwyno dadl a data yn effeithiol; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd at ddibenion cyflwyno adroddiad clir, eglur a darllenadwy o'r pwnc dan sylw mewn fformat ysgrifenedig sylweddol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn gofyn ymchwiliad manwl dros ddarn ehangach o waith ac ysgrifennu cyfreithiol mewn perthynas â phwnc arbennig yn hytrach na bod yn seiliedig ar gwrs astudio rhagosodedig. Mater i'r myfyriwr yw dewis pwnc ar gyfer ymchwil fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran ac yna mynd ymlaen i gamau ymchwil ac ysgrifennu'r ymarfer o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd â gwybodaeth am y maes y lleolir pwnc y traethawd ynddo. Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raddau â thema ymchwilio i bwnc sy'n berthnasol i'w gradd a byddant yn cael eu cefnogi i ddatblygu hyn drwy gymorth eu goruchwyliwr penodedig.
Mae'r ymarfer cyffredinol sy'n gysylltiedig ag ymchwilio a'r traethawd yn adeiladu ar wybodaeth, a hyfforddiant yn y defnydd, o adnoddau llyfrgell a ddarperir ym Mlynyddoedd 1 a 2 y cynllun gradd. . Bydd myfyrwyr y Gyfraith yn defnyddio'r wybodaeth a'r hyfforddiant yn y defnydd o adnoddau llyfrgell a ddarperir yn y modiwl Sgiliau Cyfreithiol ac Ymchwil.
Mae ymchwil lwyddiannus yn rhagdybio'r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau drwy gronfeydd data a chymhorthion llyfryddol. Darperir canllawiau gan y goruchwyliwr dynodedig drwy gyfres o gyfarfodydd lle mae'r myfyriwr yn adrodd ar gynnydd ac yn cyflwyno drafft ysgrifenedig neu ddrafftiau i wneud sylwadau arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw rhoi cyngor am fethodoleg ymchwil a chyflwyno'r ymchwil yn y traethawd ei hun.
Mae'r asesiad o'r adroddiad ymchwil wedi'i gynllunio i gefnogi myfyrwyr yn eu hymchwil a'u galluogi i wella eu perfformiad cyffredinol. Asesir y modiwl drwy ddarllen y traethawd gan y goruchwyliwr fel marciwr cyntaf, gan aelod arall o staff fel ail farciwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'n briodol. Asesir y traethawd gan gymhwyso meini prawf sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd a digonolrwydd yr ymchwil a chyflwyno deunydd a dadl yn ysgrifenedig. Felly, mae'r asesiad yn ymwneud yn arbennig â'r gallu i weithio'n gymharol annibynnol, i leoli a threfnu deunydd ymchwil perthnasol, ac i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfryngau ysgrifenedig.
Mae asesiad ychwanegol hefyd yn cynnwys cyflwyniad llafar neu boster. Bydd hyn yn asesu gallu'r myfyrwyr i gyfleu trosolwg clir o'u hymchwil a'u canfyddiadau hyd yma.
Content
Fe'i gosodir gan y myfyrwyr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddiadau ystadegol cymhleth y bydd angen eu deall a’u cloriannu. |
| Communication | Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig a'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr.Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol. |
| Improving own Learning and Performance | Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol. |
| Information Technology | Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig. |
| Personal Development and Career planning | Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno. |
| Problem solving | Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes. |
| Research skills | (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig a chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus. |
| Team work | Cynhelir nifer o gyfarfodydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
