Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle

Module Identifier
CY11020
Module Title
Ymwneud â'ch pwnc yn Gymraeg: sgiliau dwyieithog ar gyfer y brifysgol a'r gweithle
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Tamsin Davies
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad llafar: 7 munud o gyflwyniad llafar a 3 munud o gwestiynau 10 Munud 30%
Semester Assessment Aseiniad ysgrifenedig: Portffolio o ymarferion (1000) a Chrynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn (1000 gair), ynghyd â darn myfyriol ar y broses o chwilio a dewis ffynonellau (250 gair) 2250 o eiriau 70%
Supplementary Assessment Aseiniad ysgrifenedig: Portffolio o ymarferion (1000) a Chrynodeb pynciol gyda llyfryddiaeth a chyfeirnodi llawn (1000 gair), ynghyd â darn myfyriol ar y broses o chwilio a dewis ffynonellau (250 gair).Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'rr asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 2250 o eiriau 70%
Supplementary Exam Cyflwyniad llafar: 7 munud o gyflwyniad llafar a 3 munud o gwestiynau. Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl 10 Munud 30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos sgiliau darllen, trafod, dehongli, a gwerthuso beirniadol.
  2. Dewis a dethol ffynonellau priodol ar gyfer eu hastudiaethau academaidd, gan ddangos sgiliau llythrennedd gwybodaeth a llythrennedd digidol (yn cynnwys llythrennedd DA).
  3. Gweithio gyda deunydd darllen yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio sgiliau trawsieithu, aralleirio, throsi a rheoli termau yn briodol.
  4. Deall a defnyddio confensiynau ysgrifennu academaidd Cymraeg, gan gynnwys cywair, defnyddio cystrawen naturiol y Gymraeg a chyfeirnodi.
  5. Deall a defnyddio prosesau cynllunio, strwythuro, drafftio a golygu aseiniadau.
  6. Cymryd cyfrifoldeb am loywi eu hiaith eu hunain, gan gynnwys defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol.
  7. Cyflwyno a thrafod pwnc ar lafar mewn dull naturiol a rhydd.
  8. Adnabod a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y gweithle.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn arfogi myfyrwyr i astudio drwy’r Gymraeg yn y Brifysgol a hefyd defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol yn y gweithle. Bydd yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio a gweithio’n ddwyieithog, ynghyd â sgiliau academaidd cyffredinol. Drwy gyfres o sesiynau ymarferol, cyflwynir sgiliau megis ysgrifennu academaidd yn Gymraeg, llythrennedd gwybodaeth a llythrennedd digidol (gan gynnwys llythrennedd DA), cyflwyniadau llafar, gloywi iaith a defnyddio deunydd darllen cyfrwng Saesneg wrth astudio’n Gymraeg. Bydd y modiwl hwn hefyd yn paratoi myfyrwyr at astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. (Bydd rhaid i fyfyrwyr sy’n dymuno sefyll y Dystysgrif gofrestru ar wahân ar gyfer y cymhwyster).

Content

Sesiynau ymarferol (2 awr yr un):
1) Sgiliau gwybodaeth: Primo, rhestrau darllen, llyfrgell adnoddau’r Coleg Cymraeg, ffynonellau dilys, DA
2) Darllen a chymryd nodiadau: defnyddio deunydd Saesneg, sicrhau cyfeirnodi digonol, gwerthuso deunydd
3) Help cyfrifiadurol i ysgrifennu yn Gymraeg
4) Ysgrifennu academaidd: cywair, termau, dylanwad y Saesneg
5) Cyflwyniadau llafar a chywair llafar
6) Ysgrifennu i’r gweithle: gwallau iaith cyffredin, golygu
7) Ysgrifennu aseiniadau: dehongli cwestiynau, cynllunio a strwythuro, drafftio ac ail-ddrafftio
8) Cyfeirnodi: sgiliau cyfeirnodi, dyfyniadau a chyfeiriadau wrth ysgrifennu yn Gymraeg, cyfieithu a thrawsieithu, DA
9) Trawsieithu i’r gweithle
10) Ysgrifennu rhydd

Seminarau:
1) Gloywi eich iaith eich hunan
2) Gwallau iaith cyffredin
3) Trafod yn y dosbarth
4) Gweithio mewn grŵp
5) Cymraeg Clir
6) Paratoi at arholiadau
7) Cyflwyniadau llafar
8) Ysgrifennu rhydd
9) Trawsieithu
10) Ateb cwestiynau arholiad

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Defnyddir gwybodaeth rifyddol sylfaenol wrth i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trawsieithu, sgiliau cyflwyno a sgiliau arholiad.
Communication Datblygir sgiliau cyfathrebu drwy drafodaethau beirniadol mewn seminarau a sesiynau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith grŵp, cyflwyno ar lafar ac arfarnu gan gyfoedion.
Improving own Learning and Performance Gofynnir i fyfyrwyr baratoi portffolio o ymarferon a gynhyrchir drwy broses atblygol gan ddefnyddio arfarnu gan gyfoedion i wella eu gwaith. Bydd hefyd yn datblygu strategaethau ar gyfer gloywi eu hiaith eu hunain a datblygu arddull ysgrifennu academaidd.
Information Technology Gofynnir i fyfyrwyr ddefnyddio Microsoft Office a Blackboard fel rhan o’r modiwl. Mae defnyddio arfau iaith cyfrifiadurol yn hanfodol i bob aseiniad. Mae myfyrwyr hefyd yn dysgu sut mae adnabod gwerth ffynonellau cyfeiriol ar-lein.
Personal Development and Career planning Datblygir sgiliau a fydd yn fantais fawr yn y gweithle dwyieithog. Anogir y myfyrwyr i adnabod y sgiliau hyn a’u miniogi. Wrth gwblhau’r modiwl hwn, bydd myfyrwyr wedi derbyn pump o’r chwe sesiwn gefnogol i baratoi myfyrwyr at Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’u hanogir i gofrestru i sefyll y Dystysgrif yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.
Problem solving Mae pob sesiwn ac ymarfer yn cynnwys elfen o ddatrys problemau wrth i’r myfyrwyr ffurfio atebion a dehongliadau sy’n briodol i’w pwnc academaidd ynteu’r gweithle, gan gymhwyso’r sgiliau priodol.
Research skills Mae’r modiwl yn gofyn am ddarllen, dadansoddi a dod o hyd i ddeunydd priodol. Mae defnyddio rhestrau darllen Aspire, Primo, Llyfrgell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, DA ac adnoddau cysylltiedig yn hanfodol.
Subject Specific Skills Darperir i’r myfyrwyr gist offer o sgiliau hanfodol ar gyfer astudio eu pwnc drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu, llafar, gwerthuso, dehongli a dadansoddi’n feirniadol a’u cymhwyso.
Team work Mae myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgareddau arfarnu gan gyfoedion a gweithgareddau trafod mewn seminarau a sesiynau ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 4