Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

Module Identifier
CY11120
Module Title
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Llewelyn Hopwood
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Professor Mererid Hopwood
Dr Cathryn Charnell-White
Dr Llewelyn Hopwood

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%
Semester Exam Arholiad ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr 60%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%
Supplementary Exam Arholiad ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr 60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Medru adnabod a dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau a genres traddodiadau llenyddol y Gymraeg o’r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (barddoniaeth a rhyddiaith).
  2. Dangos dealltwriaeth o themâu a chysyniadau llenyddol wrth ymdrin â llenyddiaeth hanesyddol.
  3. Dangos dealltwriaeth o syniadau a symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg o dro i dro.
  4. Medru trafod testunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Brief description

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Trafoir genres llenyddol gwahanol, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro. Darllenir detholiad o destunau gan feirdd a llenorion sy’n amlygu rhai themâu penodol.

Aims

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Cymru yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Bydd yn gyflwyniad a rydd sail i ddewis modiwlau arbenigol yn Rhan 2.

Content

Cynnwys: dwy awr yr wythnos.

Dyma fodiwl sy’n fraslun o lenyddiaeth Gymraeg cyn 1900 gan ganolbwyntio ar ei phrif themâu a’i ffigurau. Ymhlith y rhain, trafodir Taliesin (y Cynfeirdd), Prydydd y Moch (Beirdd y Tywysogion), Guto’r Glyn (Beirdd yr Uchelwyr), Morgan Llwyd, William Williams Pantycelyn a Daniel Owen.

Mae darlithoedd 1–8 yn canolbwyntio ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, gan ystyried sut y mae genres y Gyfundrefn Farddol yn newid dros amser a beth, os unrhyw beth, yw llinyn aur y ‘Traddodiad Barddol’. Yna, mae darlithoedd 11–20 yn canolbwyntio ar y cyfnod modern cyn 1900, gan edrych yn fanylach ar unigolion â’u rolau yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number amherthnasol
Communication Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn y traethawd ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig; trwy ddatblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol â’r wybodaeth ieithyddol, gefndirol a diwylliannol berthnasol.
Information Technology At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.
Personal Development and Career planning Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol drwy gydol y Semester.
Problem solving Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Research skills Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer llunio traethawd ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Subject Specific Skills Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol, a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Team work Bydd cyfle o dro i dro i drafod testun llenyddol mewn grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 4