Themau a Ffigurau Llen c.550-1900
- Module Identifier
- CY11120
- Module Title
- Themau a Ffigurau Llen c.550-1900
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Llewelyn Hopwood
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Bleddyn Huws
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Cathryn Charnell-White
- Dr Llewelyn Hopwood
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Semester Exam | Arholiad ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr | 60% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 2000 o eiriau | 40% |
| Supplementary Exam | Arholiad ysgrifenedig: 2 Hours 2 Awr | 60% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Medru adnabod a dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau a genres traddodiadau llenyddol y Gymraeg o’r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (barddoniaeth a rhyddiaith).
- Dangos dealltwriaeth o themâu a chysyniadau llenyddol wrth ymdrin â llenyddiaeth hanesyddol.
- Dangos dealltwriaeth o syniadau a symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg o dro i dro.
- Medru trafod testunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.
Brief description
Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Trafoir genres llenyddol gwahanol, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro. Darllenir detholiad o destunau gan feirdd a llenorion sy’n amlygu rhai themâu penodol.
Aims
Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Cymru yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Bydd yn gyflwyniad a rydd sail i ddewis modiwlau arbenigol yn Rhan 2.
Content
Cynnwys: dwy awr yr wythnos.
Dyma fodiwl sy’n fraslun o lenyddiaeth Gymraeg cyn 1900 gan ganolbwyntio ar ei phrif themâu a’i ffigurau. Ymhlith y rhain, trafodir Taliesin (y Cynfeirdd), Prydydd y Moch (Beirdd y Tywysogion), Guto’r Glyn (Beirdd yr Uchelwyr), Morgan Llwyd, William Williams Pantycelyn a Daniel Owen.
Mae darlithoedd 1–8 yn canolbwyntio ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, gan ystyried sut y mae genres y Gyfundrefn Farddol yn newid dros amser a beth, os unrhyw beth, yw llinyn aur y ‘Traddodiad Barddol’. Yna, mae darlithoedd 11–20 yn canolbwyntio ar y cyfnod modern cyn 1900, gan edrych yn fanylach ar unigolion â’u rolau yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | amherthnasol |
| Communication | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn y traethawd ysgrifenedig. |
| Improving own Learning and Performance | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig; trwy ddatblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol â’r wybodaeth ieithyddol, gefndirol a diwylliannol berthnasol. |
| Information Technology | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
| Personal Development and Career planning | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol drwy gydol y Semester. |
| Problem solving | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
| Research skills | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer llunio traethawd ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
| Subject Specific Skills | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol, a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
| Team work | Bydd cyfle o dro i dro i drafod testun llenyddol mewn grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
