Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Module Identifier
CY11720
Module Title
Ysgrifennu Cymraeg Graenus
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Rhianedd Jewell
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Professor Mererid Hopwood
Dr Llewelyn Hopwood
Dr Rhianedd Jewell

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Ymarferion Wythnosol 1: (Semester 1: 8 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd) 20%
Semester Assessment Ymarferion Wythnosol 2: (Semester 2: 8 o Ymarferion Wythnosol (gosodir tasg wythnosol, sef amrywiaeth o dasgau cyfieithu, cywiro ac ysgrifennu rhydd) 30%
Semester Exam 2 Hours 50%
Supplementary Assessment Ymarferion 2: 30%
Supplementary Exam 2 Hours 50%
Supplementary Exam Ymarferion 1: 20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Ysgrifennu’n hyderus yn y cywair llenyddol, ffurfiol.
  2. dangos dealltwriaeth o’r modd y defnyddir system ferfol y Gymraeg (amserau’r ferf; moddau gweithredol a goddefol)
  3. llunio cymalau perthynas yn gywir
  4. sut i lunio cymal enwol yn gywir
  5. llunio cymalau amodol yn gywir
  6. deall sut y mae pwyslais yn gweithio yn y Gymraeg.
  7. deall sut mae llunio cymalau adferfol yn gywir
  8. defnyddio rhagenwau personol yn gywir (rhai blaen, ôl mewnol)
  9. llunio ffurf fenywaidd unigol yr ansoddair a ffurf luosog yr ansoddair yn gywir
  10. llunio a defnyddio graddau cymhariaeth yr ansoddair yn gywir.

Brief description

Mae’r modiwl hyn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig myfyrwyr ac yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. Dilynir patrwm Gweithdy–Seminar–Gweithdy. Cyflwynir pwnc gramadegol newydd ym mhob gweithdy gramadeg wythnosol a gwneir ymarferion pwrpasol yn y seminar sy’n dilyn lle disgwylir i fyfyrwyr fedru egluro’r rheolau gramadegol sydd ar waith yn yr ymarferion. Mae’r ail weithdy wythnosol yn gyfle i atgyfnerthu pynciau gramadegol penodol a hefyd i drafod pynciau gramadegol cyffredinol eraill sy’n codi yng ngwaith ysgrifenedig y myfyrwyr. Gosodir y dasg wythnosol yn yr ail weithdy. Defnyddir pecyn cwrs ac ymarferion a ddatblygwyd gan Dr Ian Hughes.

Aims

Y rhesymeg dros y modiwl craidd hwn yw bod angen i gwricwlwm i fyfyrwyr ail iaith osod seiliau cadarn mewn gramadeg a Chymraeg ysgrifenedig. Ceir modiwl cyfatebol sy’n atgyfnerthu Cymraeg anffurfiol a sgiliau llafar (CY11620)

Content

Semester 1
• Y gystrawen
• Y ferf ‘bod’ – presennol, dyfodol/arferiadol
• Y ferf ‘bod’ – perffaith
• Y ferf ‘bod’ – amherffaith/gorberffaith
• Y ferf ‘bod’ – amodol + gorffennol arferiadol
• Amserau gorffennol y ferf; Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno gorffennol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: presennol/dyfodol
• Berfenwau a bonion, terfyniadau cryno: amherffaith/amodol
• Adolygu terfyniadau berfau cryno
• gwybod/adnabod

Semester 2
• gweithredol/goddefol; amhersonol
• gorchmynnol; gwneud awgrym; gwneud cais
• berfau cynorthwyol; gwrthrych berfenw
• amodau: os, pe, oni
• y cymal enwol
• cymalau adferfol
• cymalau perthynol, rhywiog ac afrywiog; pwyslais/blaenoli
• treigliadau (y fannod); cystrawen y genidol.
• Ansoddeiriau; cymharu ansoddeiriau
• Rhagenwau personol; rhagenwau mewnol; arddodiaid personol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number amherthnasol
Communication Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad.
Improving own Learning and Performance Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Information Technology Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.
Personal Development and Career planning Gweler rhif 4
Problem solving Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol
Research skills Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Subject Specific Skills Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Team work Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.

Notes

This module is at CQFW Level 4