Module Information
Cod y Modiwl
CY12020
Teitl y Modiwl
O'r hengerdd i heddiw: trosolwg o lenyddiaeth Gymraeg
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad Arholiad sy'n gofyn i'r myfyrwyr ysgrifennu pytiau gwerthfawrogi a thraethodau ar ddetholiad o bynciau'r modiwl. 2 Awr | 50% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad Arholiad sy'n gofyn i'r myfyrwyr ysgrifennu pytiau gwerthfawrogi a thraethodau ar ddetholiad o bynciau'r modiwl. 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd Semester 2 Traethawd ar bynciau Semester 2: llenyddiaeth 1900 hyd heddiw 750 o eiriau | 25% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd Semester 1 Traethawd ar bynciau Semester 1: llenyddiaeth cyn 1900. 750 o eiriau | 25% |
| Asesiad Semester | Traethawd Semester 2 Traethawd ar bynciau Semester 2: llenyddiaeth 1900 hyd heddiw 750 o eiriau | 25% |
| Asesiad Semester | Traethawd Semester 1 Traethawd ar bynciau Semester 1: llenyddiaeth cyn 1900. 750 o eiriau | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
dangos dealltwriaeth o themâu, o genres ac o ffigurau llenyddol hanesyddol a chyfoes (barddoniaeth a rhyddiaith);
dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau llenyddol y cyfnod fel yr amlygant eu hunain yng ngwaith llenorion y cyfnod;
medru trafod (ar lafar ac yn ysgrifenedig) detholiad o destunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yng nghyd-destun canon yr awdur, ynghyd â’u cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol.
Disgrifiad cryno
Trosolwg o lenyddiaeth Gymraeg hanesyddol o'r cyfnod cynharaf, sef barddoniaeth Aneirin a Thaliesin o'r chweched ganrif, hyd heddiw, e.e. nofelau diweddar Ioan Kidd.
Cynnwys
Rhennir y cynnwys yn gronolegol. Bydd semester 1 yn dysgu llenyddiaeth hyd 1900, a semester 2 yn dysgu llenyddiaeth 1900–heddiw.
Dyma'r pynciau bras:
Semester 1
1. Y Cynfeirdd
2. Beirdd y Tywysogion (a chanu Taliesin a Myrddin)
3. Y Gyfundrefn Farddol a genres y beirdd
4. Guto’r Glyn
5. Siôn Cent
6. Y Dadeni Dysg: llyfrau print, a geiriadura
7. Awduron rhyddiaith y 16G/17G (Morgan Llwyd, Theophilus Evans)
8. Dau draddodiad: William Williams Pantycelyn a Iolo Morgannwg
9. Ceiriog
10. Daniel Owen
Semester 2
1. 'Monica', Saunders Lewis
2. 'Drudwy Branwen', R. Williams Parry
3. 'Ffair Gaeaf a storïau eraill', Kate Roberts
4. 'Marwnad J. E. Lloyd', Saunders Lewis
5. 'Marwydos', Islwyn Ffowc Elis
6. Cerddi Alun Cilie
7. 'Seren Wen ar Gefndir Gwyn', Robin Llywelyn
8. Cerddi Christine James
9. Nofel ddiweddar
10. Barddoniaeth ddiweddar
Dyma'r pynciau bras:
Semester 1
1. Y Cynfeirdd
2. Beirdd y Tywysogion (a chanu Taliesin a Myrddin)
3. Y Gyfundrefn Farddol a genres y beirdd
4. Guto’r Glyn
5. Siôn Cent
6. Y Dadeni Dysg: llyfrau print, a geiriadura
7. Awduron rhyddiaith y 16G/17G (Morgan Llwyd, Theophilus Evans)
8. Dau draddodiad: William Williams Pantycelyn a Iolo Morgannwg
9. Ceiriog
10. Daniel Owen
Semester 2
1. 'Monica', Saunders Lewis
2. 'Drudwy Branwen', R. Williams Parry
3. 'Ffair Gaeaf a storïau eraill', Kate Roberts
4. 'Marwnad J. E. Lloyd', Saunders Lewis
5. 'Marwydos', Islwyn Ffowc Elis
6. Cerddi Alun Cilie
7. 'Seren Wen ar Gefndir Gwyn', Robin Llywelyn
8. Cerddi Christine James
9. Nofel ddiweddar
10. Barddoniaeth ddiweddar
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ar y testunau a’r cysyniadau allweddol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig. |
| Datrys Problemau Creadigol | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol. |
| Gallu digidol | At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau; defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y Bwrdd Du. |
| Myfyrdod | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
