Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Module Identifier
CY13120
Module Title
Sgiliau Astudio Iaith a Llên
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Cathryn Charnell-White
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Bleddyn Huws
Dr Cathryn Charnell-White
Professor Mererid Hopwood
Dr Llewelyn Hopwood
Dr Rhianedd Jewell

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Pecyn o dasgau wythnosol (4 eitem): 2000 o eiriau 60%
Semester Assessment Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.: 1000 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Traethawd ffurfiannol wedi ei gyfeirio’n llawn.: 1000 o eiriau 40%
Supplementary Assessment Pecyn: tasgau (4 eitem): 2000 o eiriau 60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Medru defnyddio Llyfrgell y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol a’u adnoddau amrywiol, gan gynnwys adnoddau electronig, yn effeithiol.
  2. Paratoi, cynllunio a chyflwyno aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau yn amserol ac yn effeithiol, yn unol â rheoliadau’r brifysgol.
  3. Cyflwyno dadl resymegol a herio rhagdybiaethau mewn modd effeithiol a theg, ar lafar ac ar bapur.
  4. Cyflwyno gwaith ysgrifenedig sy’n ufuddhau i gonfensiynau academaidd yr Adran neu’r Athrofa mewn perthynas â throednodi a darparu llyfryddiaeth, ac ati.
  5. Dangos dealltwriaeth o gywair academaidd priodol a chywirdeb ieithyddol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn rhan o’r broses o gynefino â bywyd academaidd yn y Brifysgol ac o astudio iaith a llên yn benodol. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer llunio aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli’r cywair academaidd. Meithrinnir nifer o sgiliau angenrheidiol eraill hefyd: rheoli amser, meddwl yn feirniadol, ymagweddu’n hunanfeirniadol, ystyried materion gyrfaol ac ati.

Aims

Rhesymeg y modiwl hwn yw bod angen modiwl ar sgiliau astudio pwnc-benodol a chefnogaeth i ysgrifennu’n academaidd ar fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf; a hynny er mwyn hwyluso’r broses gynefino, er mwyn eu paratoi ar gyfer gwaith ysgrifenedig yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol, ac er mwyn atgyfnerthu eu hyder wrth feistroli’r cywair academaidd wrth ysgrifennu.

Content

1. Cynefino; rheoli amser a chymryd nodiadau mewn darlithiau. Defnyddio adnoddau dysgu: BwrddDu, rhestrau darllen Talis Aspire, adnoddau’r Porth (CCC).
2. Llyfrgell Hugh Owen 1: adnabod a defnyddio casgliadau’r llyfrgell. (Sesiwn gyda’r llyfrgellydd pwnc)
3. Llyfrgell Hugh Owen 2: chwilio electronig. (Sesiwn gyda’r llyfrgellydd pwnc mewn ystafell gyfrifiaduron).
4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru: aelodaeth, cynllun gwirfoddoli LlGC, y casgliadau a’r adnoddau electronig.
5. Hunanofal ac arferion da ar gyfer astudio yn y brifysgol.
6. Paratoi a chynllunio aseiniadau ysgrifenedig a thraethodau; cyflwyno ac adeiladu dadl; defnyddio meini prawf.
7. Llên-ladrad ac ymddygiad annheg.
8. Cyfeirio a throednodi; llyfryddiaethau.
9. Golygu eich gwaith; cyweiriau iaith a chyflwyniad i nodweddion Cymraeg academaidd
10. (parhad o sesiwn 9…)
11. Cyflwyniadau llafar ac arholiadau llafar
12. Meddwl a darllen yn feirniadol 1
13. Meddwl a darllen yn feirniadol 2
14. Ymagweddu ac ysgrifennu'n hunanarfarnol
15. Astudio Llenyddiaeth: Darllenydd – Awdur – Testun – Amgylchiadau (DATA)
16. DATA
17. DATA
18. Sesiwn gyda Gwasanaethau Gyrfaoedd PAU
19. Ysgrifennu adolygiad neu werthfawrogiad (gwales.com)
20. Arholiadau: adolygu a chynllunio traethodau mewn arholiad.
Cynhelir 20 gweithdy 1 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a staff eraill y Brifysgol a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number amherthnasol
Communication Mae cyfathrebu yn effeithiol, yn gywir ac yn briodol (yn eu geiriau eu hunain) yn hanfodol i’r gweithdai a gynhelir ar y modiwl hwn.
Improving own Learning and Performance Cynhyrchu tasgau ysgrifenedig effeithiol, a gwella cywirdeb ieithyddol.
Information Technology Prosesu geiriau, cyrchu a defnyddio adnoddau electronig; defnyddio’r BwrddDu
Personal Development and Career planning Trosglwyddir sgiliau ymarferol a fydd yn sylfaen ddefnyddiol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Problem solving Ni fydd datrys problemau, fel y cyfryw, yn rhan o’r modiwl hwn. Er, bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio strategaeth ar gyfer rheoli amser yn effeithiol a threfnu deunydd.
Research skills Trwy’r cyflwyniad i gyweiriau’r iaith a nodweddion Cymraeg academaidd; trwy’r cyflwyniad i Lyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’u hadnoddau.
Subject Specific Skills Meithrinir sgiliau ymarferol ac ieithyddol trosglwyddadwy sy’n benodol i’r dyniaethau
Team work Cyd-drafod a mynegi barn mewn gweithdai wythnosol ac mewn ymarferion, e.e. ymarfer llên-ladrad

Notes

This module is at CQFW Level 4