Y Mabinogi a'r chwedl Arthuraidd

Module Identifier
CY20020
Module Title
Y Mabinogi a'r chwedl Arthuraidd
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Eurig Salisbury
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
CY30020
Other Staff
Dr Llewelyn Hopwood

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%
Semester Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 60%
Supplementary Assessment Traethawd: 2000 o eiriau 40%
Supplementary Exam Arholiad: 2 Hours 2 Awr 60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod testunau'r Pedair Cainc a thestunau mwyaf perthnasol ar gyfer olrhain datblygiadau cynharaf y chwedl Arthuraidd.
  2. Pwyso a mesur gwerth llenyddol y testunau a'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y gred fod Arthur yn berson hanesyddol o gig a gwaed.
  3. Gwerthfawrogi o leiaf ddwy gerdd gynnar o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddynt am y chwedl Arthuraidd, a dangos dealltwriaeth ohonynt.Gwerthfawrogi testunau rhyddiaith y Pedair Cainc a ‘Culhwch ac Olwen’.
  4. Olrhain trosglwyddiad ansefydlog a gwerthfawr y testunau a astudir drwy gyfrwng llawysgrifau cynnar.
  5. Dangos dealltwriaeth o natur y gymdeithas yn yr Oesoedd Canol o safbwynt Cymreig.

Brief description

Mae chwedlau cynharaf yr iaith Gymraeg yn drysorau llenyddol o bwys rhyngwladol. Mae eu poblogrwydd yn amlwg heddiw yng Nghymru a thu hwnt, a’u pwysigrwydd yn ddi- gwestiwn ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Ni fyddai astudiaeth o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn gyflawn hebddynt.
Canolbwyntir ar agweddau llenyddol Pedair Cainc y Mabinogi a'r traddodiadau cynnar am Arthur, eu harddull, eu hadeiladwaith, eu cymeriadaeth a’u technegau naratif. Hefyd trafodir syniadau’r prif ysgolheigion yn y maes hwn. Yn y dosbarthiadau testunol rhoddir sylw arbennig i strwythur un o’r ceinciau a gwneir cymhariaeth rhyngddi a’r ceinciau eraill. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau rhyddiaith Cymraeg Canol.
Arweinir y myfyrwyr drwy bob un o’r testunau yn eu tro – y Pedair Cainc, 'Culhwch ac Olwen' a dwy gerdd Arthuraidd gynnar – gan roi sail gadarn iddynt o ran yr hyn y mae’r cymeriadau’n ei wneud ac o ran llif y stori. Darllenir un gainc yn fanwl ac fe ddarllenir rhai darnau o’r chwedlau eraill. Canolbwyntir ar y cymeriadau byw a chyffrous a bortreadir yn y gwaith. Archwilir y rhesymeg waelodol sy’n sail i’r chwedlau o ran eu hadeiladwaith, ac fe’u cymharir â’i gilydd.

Content

2 awr o ddarlithoedd yr wythnos am gyfnod o 10 wythnos.
Yn yr awr gyntaf bob wythnos, trafodir cynnwys, cefndir a chyd-destun y testunau'n fanwl. Yn yr ail awr, darllenir yn fanwl un o'r testunau yn yr iaith wreiddiol.
Astudir Pedair Cainc y Mabinogi – Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen (neu Bendigeidfran), Manawydan fab Llŷr a Math fab Mathonwy – ynghyd â'r brif chwedl Arthuraidd gynnar, Culhwch ac Olwen. Trafodir hefyd rai cerddi Arthuraidd cynnar, megis 'Pa Ŵr yw'r Porthor' a 'Preiddiau Annwfn'. Darllenir yn fanwl ran o'r bedwaredd gainc. Ceir cyfle, felly, i ddarllen darn o destun gwreiddiol mewn Cymraeg Canol yn fanwl, a chyfle hefyd i astudio prif chwedlau rhyddiaith Cymraeg yr Oesoedd Canol.

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith.
Co-ordinating with others Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau.
Creative Problem Solving Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol.
Critical and analytical thinking Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud â darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol.
Digital capability Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, cerddi o Lyfr Du Caerfyrddin ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol).
Professional communication Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad.
Real world sense Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.
Reflection Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Subject Specific Skills Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 1 a 2.

Notes

This module is at CQFW Level 5