Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Arholiad Semester | Arholiad Arholiad ar agweddau Cymraeg Ddoe y modiwl 2000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Prosiect Prosiect ar agweddau 'Cymraeg Heddiw' y modiwl 3000 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad Arholiad ar agweddau 'Cymraeg Ddoe' y modiwl 2000 o eiriau | 60% |
| Asesiad Semester | Prosiect Gosodir prosiect sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddadansoddi eu tafodiaith/idiolect eu hunain, gan roi sylw i gyweiriau iaith a’r ffactorau amrywiol sy’n dylanwadu ar ein dull o ddefnyddio iaith. 3000 o eiriau | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Dangos dealltwriaeth o hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol a chymdeithaseg iaith.
Dangos dealltwriaeth o ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r famiaith Geltaidd, ei pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd ac Indo-Ewropeaidd eraill, Hen Gymraeg, Cymraeg Canol, a’r heriau mae’r Gymraeg yn ei hwynebu yn y cyfnod diweddar.
Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol tafodieitheg prif nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, ffactorau sy’n ymwneud â chymdeithaseg iaith sy’n effeithio ar hynt tafodieithoedd y Gymraeg.
Dangos dealltwriaeth o’r heriau y mae’r Gymraeg yn ei hwynebu mewn perthynas â’r tafodieithoedd, enwau lleoedd, newidiadau demograffaidd, dylanwad y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol.
Disgrifiad cryno
Cwrs dewisol i fyfyrwyr y ffrwd ail iaith sy’n cyflwyno myfyrwyr i hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddorion sylfaenol ieithyddiaeth, sef tafodieitheg, a chymdeithaseg iaith.
Nod
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review//
Cynnwys
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review//
Cymraeg Heddiw (un awr yr wythnos)
• Tafodieitheg a chymdeithaseg iaith: geirfa a phrif gysyniadau’r maes; astudiaeth o ddetholiad o dafodieithoedd; Cymraeg2050 ac adfywio'r Gymraeg.
Cymraeg Ddoe (un awr yr wythnos)
• Ieithyddiaeth: diffinio’r maes a geirfa’r maes
• Yr ieithoedd Celtaidd; Y Frythoneg; dylanwad Lladin
• Datblygiad yr iaith c. 400 800
• Hen Gymraeg
• Cymraeg Canol: rhagymadrodd
• Cymraeg Canol: dylanwad Saesneg a Ffrangeg
• Tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol
• Syniadau canoloesol am yr iaith
• Syniadau’r cyfnod modern cynnar am yr iaith
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl. |
| Datrys Problemau | Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r pynciau a’r egwyddorion a drafodir. |
| Gwaith Tim | Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y pynciau a chysyniadau allweddol y modiwl. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith. |
| Rhifedd | Amherthnasol |
| Sgiliau pwnc penodol | Trwy feithrin gallu myfyrwyr i deall a dadansoddi tafodieithoedd, enwau lleoledd, a ffurfiau hanesyddol ar yr yr iaith Gymraeg. |
| Sgiliau ymchwil | Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (prosiectau) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol. |
| Technoleg Gwybodaeth | At ddibenion ymchwil (prosiect a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
