Module Information

Cod y Modiwl
CY25700
Teitl y Modiwl
Astudiaethau Trosi ac Addasu
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Addasu  30%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion  Chwe thasg gyfieithu (y pedair tasg orau i’w hasesu).  30%
Asesiad Semester Prosiect Addasu  30%
Asesiad Semester Ymarferion  Chwe thasg gyfieithu (y pedair tasg orau i’w hasesu).  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos sgiliau cyfieithu priodol.

Gwerthfawrogi cydberthynas agweddau theoretig ac ymarferol ar gyfieithu.

Gwneud defnydd pwrpasol o amrywiaeth o dechnegau wrth addasu testunau o'u dewis eu hunain.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl hwn yw cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i wahanol agweddau ar gyfieithu ac addasu (llenyddol, technegol, hanesyddol ac ymarferol).

Fe’i rhennir, yn fras, yn ddwy ran. Mewn darlithoedd, dysgir am theorïau cyfredol ynglŷn â chyfieithu, ac am y cyswllt sydd bob amser rhwng cyfieithu, addasu a dehongli. Ymdrinnir â hanes cyfieithu o ieithoedd eraill i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, a thrafodir y dadleuon o blaid cyfieithu ac yn ei erbyn.

Cynhelir hefyd weithdai ymarferol lle y bydd cyfle i ymarfer technegau trosi ac addasu. Dysgir sut i ddarllen testunau rhyddiaith, ond edrychir hefyd ar gyfryngau megis ffilm, teledu a drama. Trafodir pwysigrwydd adnabod gwahanol deithi’r Gymraeg a’r Saesneg ac amgyffred arwyddocâd cynulleidfa, pwrpas a chyfrwng.

Craidd y modiwl fydd ‘astudiaeth achos’, lle y bydd myfyrwyr yn trosi testun o’u dewis eu hunain o un iaith neu gyfrwng i iaith neu gyfrwng arall. Ceir troi stori fer, er enghraifft, yn sgript ffilm, neu drosglwyddo rhan o destun clasurol i gyd-destun cyfoes.

Cynnwys

Dosbarthiadau TRC

1. Theori cyfieithu: cyfatebiaeth a cholled; iaith, diwylliant a normau
2. Cyfieithu yng nghyfnod y Dadeni
3. Cyfieithu yn y ddeunawfed ganrif
4. Cyfieithwyr Fictoraidd ac Edwardaidd
5. Cyfieithu a ‘chodi pontydd’ o ail hanner yr ugeinfed ganrif ymlaen
6. Addasu: stori fer / sgript teledu
7. Addasu: moderneiddio
8. Gweithdy 1
9. Gweithdy 2
10. Seminar

Dosbarthiadau RhJ

1. Cyfieithu peirianyddol a Google Translate I
2. Cyfieithu peirianyddol a Google Translate II
3. Domestigeiddio ac Estroneiddio
4. Gweithdy Domestigeiddio
5. Gweithdy Estroneiddio
6. Cyfieithu drama
7. Cyfieithu drama: gweithdy i fodelu
8. Gweithdy cyfieithu Cymraeg-Saesneg
9. gweithdy cyfieithu Saesneg-Cymraeg
10. Cyfieithu fel gyrfa
Cynhelir 20 darlith 1 awr. Cyflwynir y pynciau, uchod, gan ddarlithwyr a gosodir ymarferion a thasgau i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymarfer a datblygu’r sgiliau perthnasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu'n rhugl gan ddefnyddio Cymraeg graenus a chywir mewn dosbarthiadau ac mewn profion.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn meithrin ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu cyfieithwyr ac addaswyr wrth eu gwaith.
Datrys Problemau Hanfod y modiwl fydd trin a thrafod nodweddion dwy iaith a'r cwestiynau syniadol a thechnegol a gyfyd wrth symud rhyngddynt.
Gwaith Tim Anogir myfyrwyr i gyfrannu'n effeithiol i weithgareddau'r grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir myfyrwyr i werthuso adborth gan gyd-fyfyrwyr a darlithwyr ac i drafod gwaith ysgrifenedig ei gilydd wrth iddo gael ei baratoi.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Amherthnasol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio testun i'w addasu gan ddefnyddio'r llyfrgell a chyfryngau eraill.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr (a'u hyfforddi lle bo hynny'n briodol) i ddefnyddio ffynonellau ar y we er mwyn ategu eu gwaith a'u paratoi ar gyfer byd gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5