Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol
- Module Identifier
- CY30400
- Module Title
- Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Eurig Salisbury
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
CY20420
- Other Staff
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Portffolio o waith creadigol gwreiddiol: (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol; 3000 o eiriau | 60% |
| Semester Assessment | sylwebaeth feirniadol: ar y darnau creadigol. 1000 o eiriau | 30% |
| Semester Assessment | Noson Lenyddol: Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber). | 10% |
| Supplementary Assessment | Portffolio o waith creadigol gwreiddiol: Portffolio o waith creadigol gwreiddiol (barddoniaeth, rhyddiaith, neu gyfuniad o ffurfiau) sy’n deillio weithio’n annibynnol; 3000 o eiriau | 60% |
| Supplementary Assessment | Sylwebaeth feirniadol: ynghyd â sylwebaeth feirniadol ar y darnau creadigol. 1000 o eiriau | 30% |
| Supplementary Assessment | Darlleniad creadigol (recordiad): Cymryd rhan mewn noson lenyddol trwy gyflwyno a darllen darn o waith creadigol gwreiddiol (cyfraniad unigol o 5–10 munud); neu uwchlwytho recordiad ohonynt eu hunain yn darllen enghraiffiau o’u gwaith creadigol gwreiddiol ar lwyfan digidol yr Adran (5–10 munud, gyda chymorth stiwdio recordio Academi Aber) | 10% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol gwreiddiol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar bynciau o’u dewis eu hunain.
- Medru trafod eu gwaith yn feirniadol ac ymateb i adborth, ar bapur (sylwebaeth feirniadol) ac ar lafar (yn ystod gweithdai a sesiynau unigol).
- Arddangos sgiliau trefnu a chyflwyno addas ar gyfer y digwyddiad cyhoeddus, gan gynnwys cyflwyno a darllen eu gwaith i gynulleidfa.
- Llunio portffolio ysgrifennu creadigol annibynnol, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arno (y sylwebaeth feirniadol), sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Brief description
Mae’r modiwl hyn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r theori, y technegau a’r sgiliau a gawsant ar y modiwl CY24020 mewn portffolio o waith creadigol annibynnol. Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu sylwebaeth feirniadol hunanfyfyriol ar y portffolio a fydd yn cyd-destunoli’r gwaith mewn sawl ffordd: trwy amlygu materion theoretig ac thechnegol, a thrwy sylwebu ar y prosesau creadigol goddrychol sydd ar waith.
Disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at noson lenyddol gyhoeddus a rhoddir cyfle iddynt gyhoeddi eu gwaith ar-lein. Yn hyn o beth, felly, bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Aims
Crëwyd y modiwl hwn er mwyn cyfoethogi darpariaeth yr Adran mewn ysgrifennu creadigol, trwy roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r theori a’r sgiliau a gawsant ar y modiwl CY24020 mewn portffolio annibynnol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn pontio rhwng cymuned greadigol yr Adran a’r diwydiant cyhoeddi creadigol Cymreig ehangach.
Content
Cynhelir cyfres o seminarau er mwyn cyflwyno a thrafod pob un o’r ffurfiau isod, ynghyd ag ymarfer eu hysgrifennu naill ai’n unigol, mewn parau neu fel grŵp:
1. Barddoniaeth rydd
2. Darnau rhyddiaith byr
3. Y diwydiant Ysgrifennu Creadigol
4. Limrigau a thribannau
5. Llenyddiaeth ecffrastig
6. Llenyddiaeth epistolaidd/hapgael
7. Sgriptio
8. Deialog
9. Llais: cyfansoddi a pherfformio
10. Llunio stori: cynllun, cymeriadau, safbwyntiau
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | amhertyhnasol |
| Communication | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun y portffolio ehangach. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd y gweithdai a’r sesiynau unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gyda thiwtor ysgrifennu creadigol; bydd y sylwebaeth feirniadol a lunnir ar gyfer y portffolio gorffenedig yn esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig, gan gynnwys rhoi sylw i berfformiad a datblygiad personol. |
| Information Technology | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig; trafodir hefyd y proses o gynhyrchu gwaith i'w gyflwyno a'i gyhoeddi yn y dulliau print traddodiadol ac ar wahanol lwyfannau ar-lein / electronig. |
| Personal Development and Career planning | Gweler rhif 4. |
| Problem solving | Ymateb i heriau technegol yr ymarferion creadigol unigol. Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
| Research skills | Ymchwilio a pharatoi dan o waith creadigol |
| Subject Specific Skills | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn berthnasol i’r pwnc, a byddant o ddefnydd i fyfyrwyr sy’n dymuno gyrfa yn y diwydiant cyhoeddi creadigol. |
| Team work | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai ac i weithio tuag at berfformiad mewn noson lenyddol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
