Y Gymraeg yn y Gweithle
- Module Identifier
- CY35600
- Module Title
- Y Gymraeg yn y Gweithle
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Rhianedd Jewell
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
DG31020
- Other Staff
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Rhianedd Jewell
- Ms Elizabeth Morse
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad Llafar: 5 Munud | 10% |
| Semester Assessment | Portffolio o dasgau: 3500 o eiriau | 90% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Llafar: 5 Munud | 10% |
| Supplementary Assessment | Portffolio o dasgau: 3500 o eiriau | 90% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau cyhoeddus a phreifat Cymru.
- Dangos dealltwriaeth o brif ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda golwg ar weithredu Cynllun Iaith Gymraeg.
- Myfyrio ar y gwahanol gyd-destunau gweinyddol lle defnyddir yr iaith yn y gymdeithas.
- Cloriannu'r defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau gan sylwi ar gryfderau a gwendidau, a gwahaniaethu rhwng arferion da a gwael.
- Meithrin agwedd hyderus wrth weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg gan droi llaw at lunio dogfennau, eu golygu a'u cyfieithu.
- Bod yn ymwybodol o'r prif gynorthwyon printiedig ac electronig a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n gweinyddu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cynhyrchu portffolio proffesiynol ei ddiwyg a'i gynnwys ar sail eu cyfnod profiad gwaith.
- Trafod yn hyderus a graenus ganlyniadau eu hymchwiliadau yn ysgrifenedig.
- Gweithredu fel unigolyn cyfrifol ac fel aelod llawn o di^m yn y dosbarth ac yn y gweithle.
Brief description
Gogwydd galwedigaethol sydd i'r modiwl hwn. Gwelir yn gynyddol yr angen am baratoi'r myfyrwyr ar gyfer gwasanaethu'r gymdeithas yng Nghymru, lle y mae galw mawr am raddedigion a all drin y Gymraeg yn hyderus mewn pob math o sefydliadau a busnesau. Bydd y cwrs yn cyflwyno'r myfyrwyr i anghenion cyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus yn sgil gofynion Deddf yr Iaith 1993, gan ganolbwyntio'n bennaf ar weinyddiaeth. Edrychir yn benodol ar y defnydd o'r iaith yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau preifat a chyhoeddus Cymru, a bydd lleoli'r myfyrwyr ar brofiad gwaith yn rhai ohonynt yn ey galluogi i ddysgu'n uniongyrchol sut y defnyddir y Gymraeg yn y gweithle.
Bydd y modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau'r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o'r Gymraeg ym myd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a'r byd tu allan, ac yn rhoi i'r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd a swyddi gweinyddol ar ôl graddio.
Content
.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Gall hyn fod yn rhan o brofiad y myfyriwr yn y gweithle lle y bydd yn treulio ei gyfnod o brofiad gwaith ynddo, ond mae'n dibynnu'n hollol ar natur y gweithle. |
| Communication | Cyfathrebu a^ chyd-weithwyr yn y gwahanol leoliadau gwaith. Cyfathrebu yn ysgrifenedig yn y portffolio. |
| Improving own Learning and Performance | Adrodd a myfyrio'n feirniadol mewn seminar ar berfformaid unigol yn ystod ac ar o^l y cyfnod o brofiad gwaith ac adlewyrchu hynny wedyn yn y portffolio a asesir. |
| Information Technology | Ygyfarwyddo a^ safleoedd perthnasol ar y we a'r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr Cymraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi'r portffolio. |
| Personal Development and Career planning | Mae'r cwrs hwn yn ei gynnig ei hun ar gyfer y myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat. Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a'i gynnwys yn ei bortffolio a asesir. |
| Problem solving | Elfen hanfodol o'r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o'r dyletswyddau a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau. |
| Research skills | Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i'r defynydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo a^ ffynonellau gwybodaeth electronig. |
| Team work | Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o di^m wrth weithio ar y cyd a^ gweddill aelodau'r dosbarth mewn cyflwyniad llafar a phwyllgor mewn seminar, ac a^ chyd-weithwyr yn y gweithle. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
