Y Gymraeg yn y Gweithle

Module Identifier
CY35600
Module Title
Y Gymraeg yn y Gweithle
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Rhianedd Jewell
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
DG31020
Other Staff
No staff with Userid: BLH13
Dr Rhianedd Jewell
Ms Elizabeth Morse

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad Llafar: 5 Munud 10%
Semester Assessment Portffolio o dasgau: 3500 o eiriau 90%
Supplementary Assessment Cyflwyniad Llafar: 5 Munud 10%
Supplementary Assessment Portffolio o dasgau: 3500 o eiriau 90%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau cyhoeddus a phreifat Cymru.
  2. Dangos dealltwriaeth o brif ofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, gyda golwg ar weithredu Cynllun Iaith Gymraeg.
  3. Myfyrio ar y gwahanol gyd-destunau gweinyddol lle defnyddir yr iaith yn y gymdeithas.
  4. Cloriannu'r defnydd o'r Gymraeg mewn sefydliadau gan sylwi ar gryfderau a gwendidau, a gwahaniaethu rhwng arferion da a gwael.
  5. Meithrin agwedd hyderus wrth weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg gan droi llaw at lunio dogfennau, eu golygu a'u cyfieithu.
  6. Bod yn ymwybodol o'r prif gynorthwyon printiedig ac electronig a ddefnyddir gan sefydliadau sy'n gweinyddu'n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
  7. Cynhyrchu portffolio proffesiynol ei ddiwyg a'i gynnwys ar sail eu cyfnod profiad gwaith.
  8. Trafod yn hyderus a graenus ganlyniadau eu hymchwiliadau yn ysgrifenedig.
  9. Gweithredu fel unigolyn cyfrifol ac fel aelod llawn o di^m yn y dosbarth ac yn y gweithle.

Brief description

Gogwydd galwedigaethol sydd i'r modiwl hwn. Gwelir yn gynyddol yr angen am baratoi'r myfyrwyr ar gyfer gwasanaethu'r gymdeithas yng Nghymru, lle y mae galw mawr am raddedigion a all drin y Gymraeg yn hyderus mewn pob math o sefydliadau a busnesau. Bydd y cwrs yn cyflwyno'r myfyrwyr i anghenion cyflogwyr yn y sector preifat a chyhoeddus yn sgil gofynion Deddf yr Iaith 1993, gan ganolbwyntio'n bennaf ar weinyddiaeth. Edrychir yn benodol ar y defnydd o'r iaith yng ngweinyddiaeth rhai o sefydliadau preifat a chyhoeddus Cymru, a bydd lleoli'r myfyrwyr ar brofiad gwaith yn rhai ohonynt yn ey galluogi i ddysgu'n uniongyrchol sut y defnyddir y Gymraeg yn y gweithle.

Bydd y modiwl yn ychwanegiad gwerthfawr at ddarpariaeth academaidd yr Adran ac yn fodd i ganolbwyntio meddyliau'r myfyrwyr ar y defnydd cynyddol a wneir o'r Gymraeg ym myd gwaith yng Nghymru. Bydd yn bont effeithiol rhwng y ddarlithfa a'r byd tu allan, ac yn rhoi i'r myfyrwyr brofiad ymarferol o weld yr iaith ar waith, gyda golwg ar eu cyfeirio at ymgymryd a swyddi gweinyddol ar ôl graddio.

Content

.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Gall hyn fod yn rhan o brofiad y myfyriwr yn y gweithle lle y bydd yn treulio ei gyfnod o brofiad gwaith ynddo, ond mae'n dibynnu'n hollol ar natur y gweithle.
Communication Cyfathrebu a^ chyd-weithwyr yn y gwahanol leoliadau gwaith. Cyfathrebu yn ysgrifenedig yn y portffolio.
Improving own Learning and Performance Adrodd a myfyrio'n feirniadol mewn seminar ar berfformaid unigol yn ystod ac ar o^l y cyfnod o brofiad gwaith ac adlewyrchu hynny wedyn yn y portffolio a asesir.
Information Technology Ygyfarwyddo a^ safleoedd perthnasol ar y we a'r meddalwedd a ddefnyddir gan weinyddwyr Cymraeg eu hiaith. Prosesu geiriau wrth baratoi'r portffolio.
Personal Development and Career planning Mae'r cwrs hwn yn ei gynnig ei hun ar gyfer y myfyrwyr sydd am ddatblygu gyrfa ym maes gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cyhoeddus a phreifat. Disgwylir i bob myfyriwr lunio CV a'i gynnwys yn ei bortffolio a asesir.
Problem solving Elfen hanfodol o'r gwaith o baratoi ar gyfer y cyfnod o brofiad gwaith a hefyd o'r dyletswyddau a gyflawnir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd gofyn datrys problemau trwy gyd-drafod a rhannu profiadau.
Research skills Chwilio am ffynonellau printiedig ac ymchwilio i'r defynydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth, gan ymgyfarwyddo a^ ffynonellau gwybodaeth electronig.
Team work Bydd gofyn ymddwyn fel aelod o di^m wrth weithio ar y cyd a^ gweddill aelodau'r dosbarth mewn cyflwyniad llafar a phwyllgor mewn seminar, ac a^ chyd-weithwyr yn y gweithle.

Notes

This module is at CQFW Level 6