Datblygu Sgiliau Cyfieithu
- Module Identifier
- CYM5110
- Module Title
- Datblygu Sgiliau Cyfieithu
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Ms Elizabeth Morse
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Tasg Asesu 1: | 10% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad llafar: | 20% |
| Semester Assessment | Tasg Asesu 2: | 20% |
| Semester Assessment | Tasg Asesu 3: | 20% |
| Semester Assessment | Tasg Asesu 4: | 30% |
| Supplementary Assessment | Tasg Asesu 1: | 10% |
| Supplementary Assessment | Tasg Asesu 3: | 20% |
| Supplementary Assessment | Tasg Asesu 2: | 20% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad llafar: | 20% |
| Supplementary Assessment | Tasg Asesu 4: | 30% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth o’r gwahanol gyd-destunau ar gyfer cyfieithu yng Nghymru gyfoes
- Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith yn ymarferol)
- Adnabod gwahanol gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu
- Cymhwyso’r adnabyddiaeth o gyweiriau ac arddulliau ysgrifennu wrth fireinio eu sgiliau cyfieithu eu hunain
- Gallu trafod gwaith amrywiol gyfieithwyr a deall y broses o olygu gwaith cyfieithu
Brief description
Yn y modiwl hwn esbonir ychydig o gefndir cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt, rhoddir cyflwyniad i ddamcaniaethau cyfieithu perthnasol a thrafodir gwahanol gyweiriau iaith a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyfieithydd proffesiynol. Mae gwedd ymarferol bwysig i’r modiwl hwn, gyda’r bwriad o baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Aims
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i faes cyfieithu yn gyffredinol ac i waith y cyfieithydd proffesiynol yng Nghymru gyfoes, gan gynnig cyd-destun sylfaenol i’r maes.
Content
Bydd y seminarau wyneb yn wyneb a thrwy’r rhwydwaith fideo yn cynnwys seminarau a gweithdai a fydd yn trafod yr elfennau canlynol:
i. Crefft y cyfieithydd
ii. Cyd-destunau cyfieithu
iii. Damcaniaethau Cyfieithu perthnasol (a’u gosod ar waith mewn modd ymarferol)
iv. Hanes cyfieithu yng Nghymru a thu hwnt.
v. Cyweiriau iaith.
vi. Mireinio sgiliau a thrafod gwaith cyfieithwyr.
vii. Adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau’r aseiniadau
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd |
| Improving own Learning and Performance | Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu yn gyson ac, ar sail adborth a gweithdai, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. |
| Information Technology | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y cyflwyniad llafar yn gwneud defnydd o Bwerbwynt neu Prezzie. |
| Personal Development and Career planning | Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
| Problem solving | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyweiriau i’w defnyddio a sut i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn y darnau prawf cyfieithu. Wrth drafod gwaith ei gilydd a chyfieithwyr eraill byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur ynghyd â gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith. |
| Research skills | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio mewn gwahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau) i darddiad a defnydd geirfa cyn dewis a dethol yn ddeallus pa eirfa a chyweiriau i’w defnyddio. |
| Subject Specific Skills | Datblygir sgiliau cyfieithu drwy wneud cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg mewn amrediad o gyweiriau gwahanol. |
| Team work | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd, ond ni fydd hyn yn cael ei asesu. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
