Cyfarpar Cyfieithu

Module Identifier
CYM5210
Module Title
Cyfarpar Cyfieithu
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Ymarferiad Cyfieithu gyda thechnoleg gyda sylwebaeth: 50%
Semester Assessment Cyflwyniad: Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol. 15 Minutes 50%
Supplementary Assessment Cyflwyniad: Cyflwyniad estynedig ar lafar yn seiliedig ar gyfieithiad penodol. 50%
Supplementary Assessment Ymarferiad Cyfieithu pwrpasol gyda sylwebaeth: 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Arddangos adnabyddiaeth o’r ffynonellau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael yng Nghymru heddiw, a medru adnabod eu defnyddioldeb a’u gwerth.
  2. Dangos dealltwriaeth o sut mae meddalwedd cof cyfieithu yn gallu cynorthwyo gwaith y cyfieithydd testun.
  3. Cyfieithu darnau o destun yn gywir ac yn addas gan ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu.
  4. Esbonio defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol i’r cyfieithydd ac i eraill sy’n gweithio mewn cyd-destun dwyieithog.
  5. Deall sut mae defnyddio meddalwedd cyfieithu peirianyddol law yn llaw â meddalwedd cof cyfieithu ac asesu ei defnyddioldeb.

Brief description

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddefnyddio gwahanol becynnau o feddalwedd cyfieithu a fydd yn hwyluso eu gwaith a byddant yn ystyried addasrwydd y feddalwedd honno ar gyfer gwahanol dasgau. Byddant hefyd yn dysgu am ffynonellau geiriadurol a therminolegol a chyfeirlyfrau yng Nghymru gyfoes ac yn trafod ac asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol.

Aims

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd o gymorth i waith cyfieithwyr proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys meddalwedd technoleg gwybodaeth, cof cyfieithu, terminolegau, geiriaduron a chyfeirlyfrau.

Content

Bydd y seminarau wyneb yn wyneb a thrwy’r rhwydwaith fideo yn cynnwys seminarau a gweithdai a fydd yn trafod yr elfennau canlynol:

i) Defnyddio ac archwilio meddalwedd gyfrifiadurol sydd yn cefnogi gweithio mewn mwy nag un iaith.
ii) Dysgu a rhannu gwybodaeth am y ffynonellau ymchwil ac adnoddau geiriadurol a therminolegol a phwyso a mesur eu defnyddioldeb.
iii) Dysgu am ffynonellau terminolegol yng Nghymru gyfoes, gan gynnwys astudio’r gwahaniaeth rhwng termau technegol a geirfa fwy cyffredinol ac ystyried ym mha gyd-destun y dylid eu defnyddio.
iv) Asesu defnyddioldeb cyfieithu peirianyddol ar-lein (e.e. Google Translate, Bing) yng ngwaith y cyfieithydd.
v) Cyflwyniad i systemau cof cyfieithu a ddefnyddir gan sefydliadau cyhoeddus a phreifat.
vi) Trafodaeth ar yr elfennau uchod a’r modd y’u defnyddiwyd wrth gyflawni ymarferion y modiwl (o bosib gyda chyfieithwyr eraill).
vii) Trafodaeth bellach ar yr elfennau uchod a pharatoi ar gyfer cwblhau’r aseiniadau.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy’r gweithdai a’r seminarau bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau trafod a dadansoddi, a thrwy’r aseiniadau, yn datblygu eu defnydd o gyfarpar cyfieithu ac yn esbonio addasrwydd gwahanol gyfarpar ar gyfer trosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu wrth fynd rhagddynt, yn adolygu eu gwaith, ac yn ystyried ac esbonio’r datblygiad hwn er mwyn gwella eu perfformiad
Information Technology Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith ac esbonio eu dealltwriaeth o gyfarpar cyfieithu a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa.
Problem solving Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminoleg a chyfarpar i’w defnyddio er mwyn cyfieithu testunau o un iaith i’r llall. Wrth drafod gwaith eu hunain a’i gilydd, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso a dod i gasgliadau clir ynghylch y defnydd o iaith a chyfarpar.
Research skills Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau cyfieithu drwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau da thrwy ddefnyddio gwahanol offer pwrpasol.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau, ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp i gyd.

Notes

This module is at CQFW Level 7