Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol)

Module Identifier
CYM5310
Module Title
Portffolio Cyfieithu 1 (Cyffredinol)
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau: 100%
Supplementary Assessment Portffolio 1750 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 750 o eiriau: 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o faes cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i Gymraeg.
  2. Datblygu cywirdeb wrth gyfieithu ar wahanol themâu a phynciau.
  3. Dangos dealltwriaeth well o wahanol gyweiriau iaith a sut i’w defnyddio mewn cyfieithiadau
  4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o natur a heriau cyfieithu ar y pryd a’r adnoddau sy’n angenrheidiol gyflawni’r gwaith hwnnw

Brief description

Yn y modiwl hwn, gosodir tasgau cyfieithu a fydd yn cyflawni sawl amcan: cyflwyno genres amrywiol ac allbynnau gwahanol (e.e. adroddiadau, taflenni marchnata, cofnodion, tudalennau gwe, ymgyrchoedd hysbysebu, gwerslyfrau) ar themâu megis iechyd a gofal, busnes a’r economi, amaeth a’r amgylchedd, addysg, diwylliant, treftadaeth a’r cyfryngau, ac yn y blaen. Canolbwyntir ar ddatblygu cywirdeb a dethol cyweiriau addas wrth gyfieithu. Cyfieithu ysgrifenedig fydd prif ffocws y modiwl hwn ond cynhelir un ‘blas ar gyfieithu ar y pryd’ o’r Gymraeg i’r Saesneg. Rhagwelir y bydd 66%-75% o’r cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg a 25%-33% o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn adlewyrchu anghenion a realiti’r sector.

Aims

Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfieithu Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg myfyrwyr trwy gyfrwng nifer o dasgau amrywiol, a rhoi blas o gyfieithu ar y pryd.

Content

i. Bydd 10 sesiwn awr o hyd yn trafod y tasgau a osodir a’r adborth ar y gwaith
ii. Bydd 1 sesiwn 2 awr yn rhoi blas i’r myfyrwyr ar gyfieithu ar y pryd

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, a hynny ar amrywiol themâu, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn rhoi blas i’r myfyrwyr o gyfathrebu uniongyrchol â chynulleidfa.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu unigol wrth fynd rhagddynt ac, ar sail adborth, yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad.
Information Technology Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi’r cyfieithiadau. Bydd y sesiwn cyfieithu ar y pryd yn defnyddio technoleg briodol ar gyfer y gwaith, er na fydd y sesiwn flasu yn cael ei hasesu’n ffurfiol.
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa.
Problem solving Bydd y darnau prawf cyfieithu yn profi gallu myfyrwyr i ddethol terminoleg briodol ac i gyfieithu testunau yn gywir ac yn effeithiol.
Research skills Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio, bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau ac i ddefnydd o eirfa benodol
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg ar amrywiol themâu ac mewn amrediad o gyweiriau gwahanol.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, ac yn trafod adborth ar eu gwaith, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol.

Notes

This module is at CQFW Level 7