Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol)

Module Identifier
CYM5410
Module Title
Portffolio Cyfieithu 2 (Arbenigol)
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio 2000 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 500 o eiriau: 100%
Supplementary Assessment Portffolio 2000 o eiriau ynghyd a Sylwebaeth 500 o eiriau: 100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o faes cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i Gymraeg, a hynny mewn meysydd arbenigol a phenodol.
  2. Datblygu cywirdeb wrth gyfieithu ar wahanol themâu a phynciau.
  3. Dangos dealltwriaeth ddyfnach o wahanol gyweiriau iaith a sut i’w rhoi ar waith yn briodol mewn cyfieithiadau.
  4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r hyn yw gweithio fel cyfieithydd proffesiynol yn y gweithle.
  5. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o natur a heriau cyfieithu ar y pryd a’r adnoddau sy’n angenrheidiol gyflawni’r gwaith hwnnw

Brief description

Yn y modiwl hwn, gosodir tasgau cyfieithu mewn meysydd arbenigol, megis cyfieithu deddfwriaethol a chyfieithu mewn sectorau eraill ble mae arbenigedd cyfieithu a therminolegau pwrpasol wedi eu datblygu. Yn ogystal, caiff y myfyrwyr ymdrin â thasgau prawfddarllen, golygu a gwirio gwaith eraill, a chyfle i drafod cyfieithiadau ei gilydd mewn tiwtorial. Bydd cyfle hefyd i fynd ar leoliad gwaith byr er mwyn dechrau deall heriau byd gwaith y cyfieithydd proffesiynol.

Aims

Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfieithu Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg myfyrwyr ymhellach drwy nifer o dasgau arbenigol, a chael cyfnod byr o brofiad gwaith er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o fyd gwaith y cyfieithydd proffesiynol.

Content

i. Bydd 8 sesiwn awr o hyd (neu 4 sesiwn 2 awr), naill ai wyneb yn wyneb neu drwy rwydwaith fideo gyda chefnogaeth ar-lein yn trafod y tasgau a osodir ac yn rhoi adborth ar y gwaith.
ii. Lleoliad gwaith byr (2-3 diwrnod) gyda’r Consortiwm Cenedlaethol.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, ar themâu arbenigol a phenodol, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Bydd y cyfnod yn y gweithle yn gofyn am gyfathrebu’n effeithiol â chyfieithwyr proffesiynol a dysgu oddi wrthynt, er na fydd y gwaith hwn yn cael ei asesu’n ffurfiol.
Improving own Learning and Performance Bydd myfyrwyr yn gyson yn paratoi darnau cyfieithu unigol ac ar sail adborth acyn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn cael profiad o gyfieithu mewn gweithle proffesiynol.
Information Technology Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac adnoddau digidol/electronig wrth baratoi’r cyfieithiadau.
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn rhoi cyfle iddynt ystyried datblygiad eu gyrfa.
Problem solving Bydd y darnau prawf cyfieithu yn profi gallu myfyrwyr i ddethol terminoleg briodol ac i gyfieithu testunau o un iaith i’r llall yn effeithiol.
Research skills Cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa i’w defnyddio yn y tasgau bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau), i darddiad geiriau, ac i ddefnydd amrywiol o eirfa.
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gyfrwng cyfres o gyfieithiadau i’r Gymraeg ac i’r Saesneg ar themâu arbenigol a phenodol ac mewn amrediad o gyweiriau.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, ac yn trafod adborth ar eu gwaith. Byddant hefyd yn cael y cyfle i weithio mewn tîm yn y gweithle, ond ni fydd yr elfen hon yn cael eu hasesu’n ffurfiol.

Notes

This module is at CQFW Level 7