Prosiect Arbenigol

Module Identifier
CYM5620
Module Title
Prosiect Arbenigol
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio o destunau arbenigol: 50%
Semester Assessment Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu: 30%
Semester Assessment Cronfa o derminoleg arbenigol: 20%
Supplementary Assessment Portffolio o destunau arbenigol: 50%
Supplementary Assessment Sylwebaeth yn olrhain y broses gyfieithu: 30%
Supplementary Assessment Cronfa o derminoleg arbenigol: 20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos dealltwriaeth gadarn o anghenion cyfieithu meysydd arbenigol
  2. Addasu eu sgiliau iaith wrth ymwneud â therminoleg anghyfarwydd
  3. Trosglwyddo sgiliau o feysydd cyfieithu cyffredinol i feysydd cyfieithu arbenigol
  4. Cyfieithu testunau arbenigol yn gywir, yn gyflym ac yn effeithlon

Brief description

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes dewisol. Cyflwynir iddynt strategaethau er mwyn adnabod nodweddion gwahanol feysydd a gosodir tasgau heriol er mwyn mireinio sgiliau cyfieithu arbenigol. Cyflwynir hefyd strategaethau a chyfleoedd ymarferol i ymchwilio i derminoleg a gwybodaeth sy’n benodol i faes arbennig.

Aims

Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a gyflwynwyd yn y modiwlau craidd a rhoi cyfle iddynt ddatblygu arbenigedd cyfieithu mewn maes penodol e.e. maes deddfwriaethol, addysg, gofal ac iechyd.

Content

i. Cynhelir gweithdy cychwynnol a fydd yn cynnwys sesiynau er mwyn gosod seiliau cyffredinol ac er mwyn trafod a dethol maes arbenigol. Yn dilyn hynny, cynhelir sesiynau cefnogi ar-lein er mwyn trafod y tasgau a chyflwyno adborth.
ii. Cynhelir 2 sesiwn arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl, wedi’u teilwra yn ôl gofynion prosiectau unigol.
iii. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr penodol e.e. ym maes deddfwriaeth / technoleg.

Module skills

Skills type

Skills details

Communication Trwy’r ymarferion cyfieithu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd cyfle i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach wrth ddatblygu ymwybyddiaeth o feysydd arbenigol. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar leoliad.
Improving own Learning and Performance Wrth lunio’r Prosiect bydd y myfyrwyr yn paratoi darnau cyfieithu ac yn derbyn adborth rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella eu perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr yn y diwydiant cyfieithu er mwyn medru perfformio ar lefel broffesiynol.
Information Technology Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar cyfieithu er mwyn cyflwyno aseiniadau
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Hefyd, ceir mewnbwn allweddol gan gyfieithwyr profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr a cheir cyfle i rwydweithio gyda chyfieithwyr proffesiynol.
Problem solving Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ddewis a dethol pa derminolegau ac adnoddau iaith i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol. Wrth drafod adnoddau a thestunau gydag arbenigwyr, byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud
Research skills Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch yr eirfa a’r cyfarpar addas i’w defnyddio o fewn meysydd penodol.
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau cyfieithu trwy gwblhau cyfres o gyfieithiadau, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddanthefydyntrafodadborthac yncyfrannu’nadeiladol at waith y grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 7