Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol
- Module Identifier
- CYM5720
- Module Title
- Meistroli Mynegiant yn y Gweithle Proffesiynol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Llewelyn Hopwood
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Bleddyn Huws
- Dr Cathryn Charnell-White
- Dr Llewelyn Hopwood
- Dr Rhianedd Jewell
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | 4 aseiniad unigol: | 40% |
| Semester Assessment | Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth: | 40% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol: | 20% |
| Supplementary Assessment | 4 aseiniad unigol: | 40% |
| Supplementary Assessment | Aseiniad i'w gwblhau yn y dosbarth: | 40% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad llafar ar bwnc perthnasol: | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos ymwybyddiaeth gref o gywirdeb mynegiant
- Hunanwerthuso gan adnabod cryfderau ac anghenion wrth gwblhau tasgau ysgrifenedig
- Gwella ansawdd a mireino mynegiant personol
Brief description
Yn y modiwl hwn gosodir tasgau iaith heriol er mwyn cryfhau gafael y myfyrwyr ar yr iaith a’i chyweiriau. Canolbwyntir ar bwyntiau gramadegol ymestynnol sydd yn achosi trafferthion i nifer, a bwriedir dyfnhau dealltwriaeth y myfyrwyr o gywirdeb drwy gyfrwng sesiynau adolygu dwys.
Aims
Pwrpas y modiwl yw atgyfnerthu sgiliau iaith y myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt ddatblygu mwy o hyder yn eu meistrolaeth o ramadeg y Gymraeg, a’u harfogi ymhellach i ddrafftio darnau ysgrifenedig cywir a sicrhau mynegiant llafar o’r safon uchaf. Bwriad y modiwl hefyd yw cynnig cefnogaeth ieithyddol ehangach i’r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi dilyn trywydd academaidd traddodiadol yn y Gymraeg.
Content
i. Cynhelir gweithdy cychwynnol a fydd yn cynnwys sesiynau er mwyn gosod seiliau cyffredinol yn ogystal â chyfleoedd i adnabod cryfderau a gwendidau personol o ran iaith.
ii. Cynhelir sesiynau unigol ar-lein neu drwy rwydwaith fideo er mwyn trafod y tasgau iaith a osodir a chyflwyno adborth.
iii. Cynhelir 2 weithdy arall wyneb yn wyneb yn ystod y modiwl er mwyn dadansoddi gwallau, trafod gramadeg y frawddeg a thrafod nodweddion gwahanol lenddulliau. Bydd y sesiynau hyn hefyd yn cynnwys gwaith ehangach ar sgiliau prawfddarllen a golygu, a sgiliau cyflwyno.
iv. Cynhelir gweithdai amrywiol gan arbenigwyr iaith yn ymwneud â datblygu sgiliau hyfedredd yn yr iaith.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yn ystod y gweithdai ac wrth iddynt ymwneud â’r elfen paru a mentora. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y cyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y sesiynau unigol wyneb yn wyneb. |
| Improving own Learning and Performance | Yn ystod y modiwl bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth rheolaidd ar eu sgiliau ieithyddol ac o ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith er mwyn gwella eu perfformiad. Rhoddir pwyslais mawr ar ailddrafftio a thrafod anghenion penodol er mwyn gwella perfformiad a sicrhau cynnydd. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr iaith eraill |
| Information Technology | Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig a defnyddio geiriaduron a therminolegau ac amrywiol gyfarpar ieithyddol er mwyn cyflwyno aseiniadau. Bydd gofyn iddynt hefyd ddefnyddio meddalwedd cyflwyno megis PwerBwynt a Prezi. |
| Personal Development and Career planning | Bydd y gweithdai a’r sesiynau yn cynnig cyfle iddynt ystyried eu gyrfaoedd wrth iddynt wella eu sgiliau proffesiynol. Bydd y cyflwyniadau llafar hefyd yn gyfle iddynt ddatblygu sgiliau personol pellach ac ymgyfarwyddo â nodweddion gweithleoedd. |
| Problem solving | Disgwylir i’r myfyrwyr ddatrys problemau ieithyddol wrth gwblhau aseiniadau. Ceir cyfle hefyd yn ystod y gweithdai i ddangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau. |
| Research skills | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (geiriaduron, terminolegau, meddalwedd) cyn gwneud penderfyniadau deallus wrth gywiro, golygu a phrawfddarllen. |
| Subject Specific Skills | Datblygir sgiliau iaith yn gyson drwy holl dasgau a nodweddion eraill y modiwl. Mae sicrhau iaith gyhyrog a chywir yn rhan greiddiol o ddatblygu sgiliau cyfieithu. |
| Team work | Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
