Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol
- Module Identifier
- CYM5820
- Module Title
- Cyfieithu Creadigol Rhyngwladol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Professor Mererid Hopwood
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Eurig Salisbury
- Professor Mererid Hopwood
- Dr Rhianedd Jewell
- Ms Elizabeth Morse
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd Ysgrifenedig: 3000 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Portffolio Creadigol: 3000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd Ysgrifenedig: 3000 o eiriau | 50% |
| Supplementary Assessment | Portffolio Creadigol: 3000 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth o hanes, polisïau ac ymarfer ym maes cyfieithu creadigol mewn mwy nac un cyd-destun ieithyddol neu ddiwylliannol.
- Dangos dealltwriaeth o gyfieithu yn y cyd-destun creadigol rhyngwladol.
- Cymhwyso sgiliau cyfieithu ar gyfer y cyd-destun creadigol rhyngwladol.
Brief description
Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu yn rhyngwladol yn y cyd-destun creadigol (e.e. llenyddiaeth, beirniadaeth, barddoniaeth, theatr, ffilm, cyfryngau ac ati). Rhoddir cyflwyniad i hanes, polisïau ac ymarfer mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol a ieithyddol ym maes cyfieithu creadigol, gan roi sylw penodol i’r cyfnewid diwylliannol rhwng Cymru a’r byd.
Aims
Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gyd-destun rhyngwladol ar gyfer cyfieithu creadigol ar draws ystod o feysydd. Bydd yn caniatáu i fyfyrwyr amlieithog i ymestyn eu sgiliau cyfieithu ymhellach, ac i’r myfyrwyr dwyieithog i archwilio cyd-destunau ble defnyddir iaith bont.
Content
Bydd y sesiynau dysgu yn cynnwys darlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb (neu drwy’r rhwydwaith fideo) ar y themâu canlynol:
i. Cyflwyniad i Gyfieithu Creadigol yn y Cyd-destun Rhyngwladol: archwilio traddodiad, polisi ac ymarfer cyfredol.
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)
ii. Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: archwilio cyfnewid llenyddol rhwng Cymru a’r byd oddi ar 1998 (gan gynnwys achosion astudio).
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)
iii. Cyfieithu Creadigol ym maes Ffilm a Theledu (gan gynnwys achosion astudio)
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)
iv. Cyfieithu Creadigol ym maes Theatr (gan gynnwys achosion astudio megis Sibrwd, Theatr Genedlaethol Cymru)
(2 ddarlith/gweithdy = 4 awr)
v. Gweithdy cyfieithu rhwng y Gymraeg ac iaith heblaw Saesneg neu gan ddefnyddio Saesneg fel iaith bont neu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gweithdy 6 awr mewn cydweithrediad â Sefydliad Mercator a’i phrosiectau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Detholion.
Gall myfyrwyr ddewis cyfieithu’n uniongyrcho o blith yr ieithoedd canlynol:
Ffrangeg, Sbaeneg, Catalaneg, Galisieg, Eidaleg, Basgeg, Gwyddeleg, Llydaweg, Almaeneg a Rwsieg.
Gall myfyrwyr ddewis cyfieithu’n anuniongyrchol o ieithoedd eraill.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau cyfathrebu drwy’r holl weithdai (Themâu x 4 a’r Gweithdy Cyfieithu), Yn ogystal bydd y Portffolio Cyfieithu yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arddangos eu gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel, mewn amrywiol gyweiriau ac ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfieithu creadigol rhyngwladol yn y Gweithdy ac yna yn cyflwyno eu portffolio yn unigol wedi hynny. Bydd cyfle felly iddynt wella eu perfformiad eu hunain yn sgil ymatebion gan gyd-fyfyrwyr a’r tiwtoriaid yn ystod y broses hon. Ni chaiff y ‘gwella’ ei asesu. |
| Information Technology | Defnyddir technoleg gwybodaeth mewn rhai o’r themâu (e.e. Theatr, Ffilm a Chyfryngau). |
| Personal Development and Career planning | Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle (yn enwedig drwy’r achosion astudio) i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd ymhellach. Bydd y Gweithdy (ac Aseiniad 2) hefyd yn cynnig datblygiad personol ar gyfer y myfyriwr fel cyfieithydd creadigol. |
| Problem solving | Mae datrys problemau ieithyddol a diwylliannol yn rhan hanfodol o gyfieithu. |
| Research skills | Mae gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau hyn drwy gydol y modiwl. |
| Subject Specific Skills | Mae cyfieithu yn sgil pwnc-benodol. |
| Team work | Bydd gwaith tîm yn digwydd yn ystod y modiwl, ac yn benodol yn ystod y Gweithdy, ond ni chaiff ei asesu. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
