Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
- Module Identifier
- CYM6110
- Module Title
- Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Ms Elizabeth Morse
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Semester Assessment | Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Semester Exam | 20% | |
| Supplementary Assessment | Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Supplementary Assessment | Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Supplementary Exam | (1000 o eiriau) | 20% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Rhoi gwerthusiad beirniadol o swyddogaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyd-destun lleol a rhyngwladol;
- Arddangos sgiliau gwrando, dehongli, cyflwyno a chyfathrebu’n raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg;
- Gweithio’n annibynnol a chymhwyso’r sgiliau hynny sydd eu hangen i gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Brief description
Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu ar y pryd yng Nghymru a thu hwnt, a thrafodir cyd-destunau gwahanol Cyfieithu ar y pryd. Mae gwedd ymarferol bwyisg i’r modiwl hwn, a cheir cyfle i ymarfer a chysgodi cyfieithydd ar y pryd profiadol. Y bwriad yw paratoi myfyrwyr a datblygu eu hyder ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Aims
Pwrpas y modiwl hwn yw cynnig blas cychwynnol i fyfyrwyr o’r maes cyfieithu ar y pryd, datblygu sgiliau cyfieithu ar y pryd, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.
Content
Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:
1. Cyd-destunau cyfieithu ar y pryd - gweithdy
2. Mireinio sgiliau llefaru a chyfathrebu proffesiynol - gweithdy
3. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd - gweithdy
4. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
5. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
6. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
7. Adolygu a pharatoi ar gyfer yr asesu - gweithdy
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall. |
| Communication | Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa cyfieithu ar y pryd ar ffurf adroddiad. |
| Improving own Learning and Performance | Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio |
| Information Technology | Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd. |
| Personal Development and Career planning | Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. |
| Problem solving | Prosesu gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr. |
| Research skills | Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol. |
| Subject Specific Skills | Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg. |
| Team work | Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer. |
Notes
This module is at CQFW Level 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
