Uwch Sgiliau Golygu

Module Identifier
CYM6210
Module Title
Uwch Sgiliau Golygu
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Ms Elizabeth Morse
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Cathryn Charnell-White

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Prawf Dosbarth: 1 Hours Prawf Dosbarth 1 awr. 40%
Semester Assessment Tasg Golygu: Hyd at 1000 gair. 30%
Semester Assessment Sylwebaeth feirniadol: Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1500 gair. 30%
Supplementary Assessment Prawf Dosbarth: 1 Hours 40%
Supplementary Assessment Tasg Golygu: Hyd at 1,000 gair 30%
Supplementary Assessment Sylwebaeth feirniadol: Sylwebaeth feirniadol ar y dasg golygu sy’n cyfiawnhau’r penderfyniadau golygyddol. Hyd at 1,500 gair. 30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Dangos meistrolaeth dros faes arbenigol o wybodaeth megis arddulliau golygu ynghyd â meistrolaeth dros sgiliau golygu arbenigol.
  2. Dangos meistrolaeth gadarn dros hanfodion golygu mewn nifer o wahanol gyd-destunau arbenigol.
  3. Dadansoddi’n feirniadol a defnyddio’r prosesau golygu anghenrheidiol wrth fireinio’u sgiliau golygu.
  4. Golygu testunau amrywiol yn hyderus ac at ddibenion niferus. Trosglwyddo sgiliau golygu i feysydd cysylltiedig megis prawfddarllen, gweithio’n gwbl ddwyieithog a mentora eraill.

Brief description

Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu uwch sgiliau golygu o fewn y maes cyfieithu. Rhoddir cyflwyniad manwl i waith golygyddion proffesiynol ac i wahanol gyweiriau a chyd-destunau golygu. Darperir cyfleoedd i ymarfer golygu ac i fanteisio ar brofiad golygyddion cydnabyddedig o fewn y maes wrth ddatblygu sgiliau golygu.

Content

Trefnir y sesiynau ar ffurf dau ddiwrnod cyswllt dwys a hefyd ar ffurf sesiynau unigol a sesiynau cysgodi arbenigwyr.
Bydd sesiynau’r diwrnodau cyswllt yn cynnwys gweithdai a fydd yn ymwneud â’r elfennau canlynol:
Diwrnod cyswllt 1
• Hanfodion golygu
• Egwyddorion golygu a chysondeb
• Golygu copi
• Golygu creadigol


Diwrnod cyswllt 2

• Sgiliau prawfddarllen a sgiliau ehangach
• Mireinio sgiliau a thrafod gwaith golygyddion proffesiynol
• Golygu cynnyrch cyfieithu peirianyddol
• Cydweithio, adolygu ac ymarfer – sy’n cynnwys adolygu’r elfennau uchod cyn cwblhau aseiniadau.

Bydd yr holl weithdai yn ymwneud â datblygu ymwybyddiaeth o systemau sicrhau ansawdd a datblygu sgiliau golygu ymestynnol.
Bydd y gwaith yn cynnwys datblygu prosesau prawfddarllen proflenni er mwyn gwneud yn siŵr na chyflwynir unrhyw wallau wrth i’r testun gael ei gysodi; datblygu prosesau adolygu cyfieithiadau a wnaed gan gyfieithydd arall, fel rhan o’r broses o sicrhau ansawdd, a’i gymharu ochr yn ochr â’r testun gwreiddiol; golygu testun yn yr iaith wreiddiol, cywiro gwallau ffeithiol neu ieithyddol a chynnig gwelliannau i’r arddull neu’r cynnwys; datblygu prosesau gwirio testun a ddrafftiwyd gan rywun nad yw’n gyfieithydd, a chywiro unrhyw wallau ieithyddol neu gynnig gwelliannau i’r arddull; datblygu prosesau gwirio cyfieithiadau sy’n gynnyrch cof cyfieithu neu gyfieithu peirianyddol.
Trefnir cyfranwyr allanol i gyfrannu at y diwrnodau cyswllt er mwyn cyfoethogi profiad y myfyrwyr ac er mwyn darparu cyfleoedd iddynt rwydweithio a chydweithio â sefydliadau perthnasol megis cyrff cyhoeddus / gweisg / adrannau’r Llywodraeth.

Sesiynau ychwanegol:
• Sesiynau unigol
• Sesiynau cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith. Disgwylir i’r myfyrwyr dreulio cyfnod byr ar leoliad er mwyn datblygu profiad uniongyrchol ehangach yn y maes e.e. gellir cwblhau tasgau ar leoliad gydag arbenigwyr golygyddol wrth dreulio cyfnod byr yn cysgodi arbenigwyr wrth eu gwaith.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ni chaiff gwybodaeth rifyddol y myfyriwr ei asesu yn y modiwl hwn.
Communication Trwy’r ymarferion golygu bydd myfyrwyr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall yn gywir ac i safon uchel. Bydd gofyn i’r myfyrwyr hefyd gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar ymweliad neu wrth gysgodi golygyddion
Improving own Learning and Performance Wrth gwblhau tasgau bydd y myfyrwyr yn derbyn adborth yn rheolaidd. O ganlyniad byddant yn adolygu eu gwaith ac yn mireinio eu sgiliau er mwyn gwella’u perfformiad. Byddant hefyd yn derbyn adborth gan arbenigwyr golygu trwy gyfrwng y gweithdai a’r profiad ehangach.
Information Technology Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr gyflwyno gwaith yn electronig. Byddant hefyd yn defnyddio geiriaduron a therminolegau ar-lein, yn ogystal ag amrywiol gyfarpar cyfieithu a golygu, wrth ymarfer a chyflwyno aseiniadau.
Personal Development and Career planning Gofynnir i’r myfyrwyr ystyried eu gwaith a’i ddatblygu yn dilyn adborth a fydd yn gymorth iddynt wrth ddatblygu gyrfa. Trwy gyfrwng y gweithdai bydd cyfle hefyd i rwydweithio a chael mewnbwn gan olygyddion profiadol er mwyn cefnogi cynlluniau personol y myfyrwyr o ran gyrfa.
Problem solving Bydd yn rhaid i fyfyrwyr arddangos eu gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau (e.e. geiriaduron, cyfeirlyfrau, cronfeydd ar-lein) wrth ddewis a dethol pa adnoddau i’w defnyddio wrth ymdrin â thestunau arbenigol a’u golygu. Byddnat yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau.
Research skills Trwy’r ymarferion golygu bydd y myfywryr yn arddangos eu sgiliau iaith a’u gallu i ymchwilio i wahanol ffynonellau cyn gwneud penderfyniadau deallus. Byddant yn ystyried gwahanol gyweiriau a gwahanol gynulleidfaoedd.
Subject Specific Skills Datblygir sgiliau golygu trwy gwblhau cyfres o ymarferion, trwy ddefnyddio technoleg a thrwy gydweithio ag arbenigwyr o fewn y maes cyfieithu.
Team work Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Byddant hefyd yn trafod adborth ac yn cyfrannu’n adeiladol at waith y grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 7