Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer

Module Identifier
CYM6420
Module Title
Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 2
Co-ordinator
To Be Arranged
Reading List
View on Aspire
Pre-Requisite
CYM6110 or CYM6110
Other Staff

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Dau brawf Cyfieithu ar y Pryd: - 10 munud yr un. 80%
Semester Assessment Adroddiad Adfyfyriol: 2000 Words 20%
Supplementary Assessment Adroddiad Adfyfyriol: 2000 Words 20%
Supplementary Assessment Dau brawf Cyfieithu ar y Pryd: - 10 munud yr un. 80%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Dadansoddi’n feirniadol rôl a swyddogaeth y cyfieithydd ar y pryd ac arddangos dealltwriaeth eglur o’r prif ddamcaniaethau ym maes cyfieithu ar y pryd;
  2. 2. Llefaru’n glir yn y cywair priodol a deall a dehongli’n gywir wrth gyfieithu ar y pryd;
  3. 3. Arddangos sgiliau ymchwil annibynnol ac amgyffred elfennau sylfaenol pwnc arbenigol/technegol a’r derminoleg berthnasol, yn ogystal â chasglu geirfa ddwyieithog ar gyfer y derminoleg honno;
  4. 4. Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn nifer o gyd-destunau a genres gwahanol a gwerthuso eu gwaith eu hunain yn feirniadol.

Brief description

Bydd y modwl yn adeiladu ar y sgiliau sydd eisoes wedi’u hennill wrth i fyfyrwyr ddilyn y modwl Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd. Yn y modwl hwn yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd ymarferol i gyfieithu ar y pryd mewn cyd-destunau gwahanol ac i adfyfyrio ar eu perfformiad.

Content

Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:
hanes a theori cyfieithu ar y pryd
dadansoddi’r prif ddamcaniaethau rhyngwladol sy’n gyfoes ym maes cyfieithu ar lafar
• Trafod yr ystod o sgiliau sy’n angenrheidiol wrth gyfieithu ar y pryd yn effeithiol: cywair llais, stamina, rheoli goslef y llais, ynganu, strategaethau cynorthwyo’r cof, cymryd nodiadau, gwrando a siarad ar yr un pryd a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd.
• Ymgyfarwyddo ag adnoddau a fydd yn eu cynorthwyo wrth ymchwilio’n annibynnol i feysydd arbenigol wrth baratoi ar gyfer gwaith cyfieithu ar y pryd, e.e. ffynonellau electroneg, terminoleg a geirfa arbenigol. Canolbwyntir ar loywi Saesneg y myfyrwyr, siarad yn eglur a chyfieithu’n naturiol.
• Ymgyfarwyddo a defnyddio offer fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ymarfer y dechneg o gyfieithu ar y pryd, recordio eu cyfieithiadau a gwerthuso eu perfformiadau gyda thiwtoriaid profiadol. Bydd y myfyrwyr yn ymarfer cyfieithu’n olynol cyn mynd ati i ymarfer cyfieithu ar y pryd.
• Cyfieithu mewn nifer o gyd-destunau gwahanol gan edrych ar genres gwahanol (e.e. iaith busnes, hamdden, cyfarfodydd ffurfiol, darlithiau academaidd cyhoeddus, cyfieithu ym meysydd crefydd, gwleidyddiaeth a’r gyfraith). Anogir y myfyrwyr i werthuso eu gwaith eu hunain, yn ogystal â gwaith ei gilydd. Dadansoddir gwallau iaith ac awgrymir gwelliannau, yn ogystal â thrafod cryfderau a rhannu arfer da.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall.
Communication Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall.
Improving own Learning and Performance Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio.
Information Technology Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd.
Personal Development and Career planning Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn.
Problem solving Prosesu Gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr.
Research skills Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall.
Subject Specific Skills Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg.
Team work Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer.

Notes

This module is at CQFW Level 7