Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro

Module Identifier
DA10520
Module Title
Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Rhys Dafydd Jones
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
GS10220
English version of this module
Other Staff
Dr Hywel Griffiths

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 50%
Semester Assessment Asesiad diwedd modiwl: 50%
Supplementary Assessment Asesiad diwedd modiwl: 50%
Supplementary Assessment Traethawd: 1500 o eiriau 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Adnabod ac esbonio'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newid cyfoes yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  2. Gwerthuso'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  3. Cymhwyso ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol a chysyniadol perthnasol er mwyn esbonio newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  4. Gwerthuso'r goblygiadau polisi a goda o'r fath newid.
  5. Arddangos sgiliau darllen, dehongli, a gwerthuso beirniadol.

Brief description

Ystyria'r modiwl y ffyrdd mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Archwilir y safbwyntiau hyn yng nghyd-destun newidiadau economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol mewn sefyllfaoedd gwledig a threfol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn aml, arweinia'r newidiadau hyn at wrthdaro ynglŷn ag ystyr gofodau gwledig a threfol, a'r bobl, gwerthoedd, ac ymddygiad sy'n 'perthyn' yno. Ystyria'r modiwl sut y daw tensiynau i'r wyneb mewn gwahanol ffyrdd, a strategaethau ar gyfer cyd-fyw cadarnhaol.

Content

Rhennir y modiwl yn ddwy ran sylweddol: 'Cefn Gwlad' ac 'Y Ddinas'. Mae pob rhan yn cynnwys 8 x darlith 1 awr a 2 x seminar 1 awr. Bydd ‘Y Wlad’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys newid amaethyddol, newidiadau economaidd yng nghefn gwlad, cadwraeth a gwarchodaeth wledig, a newid ac amrywiaeth poblogaeth wledig. Bydd ‘Y Ddinas’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys dylunio a chynllunio trefol, newidiadau economaidd trefol, newidiadau poblogaethol a demograffaidd trefol, a llywodraethu trefol. Bydd adrannau rhagarweiniol a chau byr yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau cyntaf a'r olaf, yn ymdrin â cynefino, diffiniadau a dulliau o ymdrin ag astudiaethau trefol a gwledig, a goblygiadau polisi.

Mae'r modiwl yn cynnwys 20 x darlith 1 awr a seminarau 1 awr bob pythefnos (n=5) i gefnogi ymgysylltiad myfyrwyr â chynnwys, paratoi aseiniadau, a sgiliau.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ddim yn benodol, er mae'n bosib y daw hwn i mewn i gynnwys y cwrs ar adegau.
Communication Gwneir; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cwrs; sgiliau ar lafar mewn trafodaethau dosbarth ac ati.
Improving own Learning and Performance Gwneir, drwy sesiynau ymarferol a gysylltir â'r modiwl wedi'u ffocysu ar gefnogi cynnwys a sgiliau astudio.
Information Technology Gwneir, drwy gynhyrchu'r gwaith cwrs a defnyddio amgylcheddau dysgu rhithiol
Personal Development and Career planning Gwneir, drwy sesiynau cymhwyso gwybodaeth
Problem solving Gwneir, drwy gynnwys y cwrs (e.e. diffinio gofodau gwledig a threfol; ystyried goblygiadau polisi).
Research skills Gwneir, drwy ymwneud ag ymchwil cyfredol wrth baratoi'r traethawd a'r asesiad diwedd modiwl.
Subject Specific Skills Gwneir, drwy ymwneud â syniadau damcaniaethol cyfoes sy'n sail i ddadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wledig a threfol.
Team work Gwneir, drwy trafodaethau mewn grwpiau bychain yn y dosbarth

Notes

This module is at CQFW Level 4