Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro
- Module Identifier
- DA10520
- Module Title
- Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Rhys Dafydd Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
GS10220
English version of this module - Other Staff
- Dr Hywel Griffiths
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 50% |
| Semester Assessment | Asesiad diwedd modiwl: | 50% |
| Supplementary Assessment | Asesiad diwedd modiwl: | 50% |
| Supplementary Assessment | Traethawd: 1500 o eiriau | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Adnabod ac esbonio'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newid cyfoes yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
- Gwerthuso'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
- Cymhwyso ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol a chysyniadol perthnasol er mwyn esbonio newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
- Gwerthuso'r goblygiadau polisi a goda o'r fath newid.
- Arddangos sgiliau darllen, dehongli, a gwerthuso beirniadol.
Brief description
Ystyria'r modiwl y ffyrdd mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Archwilir y safbwyntiau hyn yng nghyd-destun newidiadau economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol mewn sefyllfaoedd gwledig a threfol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn aml, arweinia'r newidiadau hyn at wrthdaro ynglŷn ag ystyr gofodau gwledig a threfol, a'r bobl, gwerthoedd, ac ymddygiad sy'n 'perthyn' yno. Ystyria'r modiwl sut y daw tensiynau i'r wyneb mewn gwahanol ffyrdd, a strategaethau ar gyfer cyd-fyw cadarnhaol.
Content
Rhennir y modiwl yn ddwy ran sylweddol: 'Cefn Gwlad' ac 'Y Ddinas'. Mae pob rhan yn cynnwys 8 x darlith 1 awr a 2 x seminar 1 awr. Bydd ‘Y Wlad’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys newid amaethyddol, newidiadau economaidd yng nghefn gwlad, cadwraeth a gwarchodaeth wledig, a newid ac amrywiaeth poblogaeth wledig. Bydd ‘Y Ddinas’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys dylunio a chynllunio trefol, newidiadau economaidd trefol, newidiadau poblogaethol a demograffaidd trefol, a llywodraethu trefol. Bydd adrannau rhagarweiniol a chau byr yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau cyntaf a'r olaf, yn ymdrin â cynefino, diffiniadau a dulliau o ymdrin ag astudiaethau trefol a gwledig, a goblygiadau polisi.
Mae'r modiwl yn cynnwys 20 x darlith 1 awr a seminarau 1 awr bob pythefnos (n=5) i gefnogi ymgysylltiad myfyrwyr â chynnwys, paratoi aseiniadau, a sgiliau.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Ddim yn benodol, er mae'n bosib y daw hwn i mewn i gynnwys y cwrs ar adegau. |
| Communication | Gwneir; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cwrs; sgiliau ar lafar mewn trafodaethau dosbarth ac ati. |
| Improving own Learning and Performance | Gwneir, drwy sesiynau ymarferol a gysylltir â'r modiwl wedi'u ffocysu ar gefnogi cynnwys a sgiliau astudio. |
| Information Technology | Gwneir, drwy gynhyrchu'r gwaith cwrs a defnyddio amgylcheddau dysgu rhithiol |
| Personal Development and Career planning | Gwneir, drwy sesiynau cymhwyso gwybodaeth |
| Problem solving | Gwneir, drwy gynnwys y cwrs (e.e. diffinio gofodau gwledig a threfol; ystyried goblygiadau polisi). |
| Research skills | Gwneir, drwy ymwneud ag ymchwil cyfredol wrth baratoi'r traethawd a'r asesiad diwedd modiwl. |
| Subject Specific Skills | Gwneir, drwy ymwneud â syniadau damcaniaethol cyfoes sy'n sail i ddadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wledig a threfol. |
| Team work | Gwneir, drwy trafodaethau mewn grwpiau bychain yn y dosbarth |
Notes
This module is at CQFW Level 4
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
