Sut i Greu Planed

Module Identifier
DA11520
Module Title
Sut i Greu Planed
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1
Co-ordinator
Dr Hywel Griffiths
Reading List
View on Aspire
Exclusive (Any Acad Year)
GS11520
Other Staff
Dr Cerys Jones

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Portffolio gwaith cwrs: 700 o eiriau 50%
Semester Exam Arholiad aml-ddewis: 1.5 Hours 1.5 Awr 50%
Supplementary Assessment Portffolio gwaith cwrs: 700 o eiriau 50%
Supplementary Exam Arholiad aml-ddewis: 1.5 Hours 1.5 Awr 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Disgrifio siâp a strwythur mewnol y blaned, a'r technegau a ddefnyddir i astudio ein Daear 3D
  2. Dangos dealltwriaeth o dectoneg platiau, gan gynnwys natur ffiniau platiau, mecanweithiau symud, a pheryglon daearegol cysylltiedig (llosgfynyddoedd,daeargrynfeydd, swnami)
  3. Dangos dealltwriaeth o'r prosesau cyfnewid sylfaenol rhwng yr atmosffer, hydrosffer a lithosffer gan gynnwys cylchrediadau’r atmosffer a’r cefnforoedd a'r cylch dŵr
  4. Dangos dealltwriaeth o natur a rheolaethau newidiadau yn yr hinsawdd ar amrywiaeth o raddfeydd

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r rhyngweithio byd-eang rhwng cydrannau solet a hylifol system y Ddaear. Bydd yn archwilio nodweddion a’r mecanweithiau sy’n gyrru cylchrediadau creigiau a dŵr a’r cylchrediadau yn yr atmosffer a'r cefnforoedd sy'n siapio'r blaned ddeinamig hon yn barhaus.
Nod y modiwl yw meithrin dealltwriaeth o'r prosesau daearegol sy'n creu tirwedd a nodweddion solet y Ddaear, a'r prosesau sy'n cynhyrchu ac yn rheoli tywydd a hinsawdd.
Bydd yn darparu'r fframwaith sylfaenol ar gyfer deall ac ymchwilio i system amgylchedd y ddaear, dynameg newid byd-eang a'i oblygiadau i fywyd ar y ddaear.

Content

Bydd tair rhan i’r modiwl:
1.Y lithosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio tarddiad y Ddaear a chysawd yr haul a siâp a strwythur ein planed yn ogystal â mecanweithiau tectoneg platiau a pheryglon cysylltiedig. Bydd hefyd yn cyflwyno cylchred yr uwchgyfandiroedd, a'r rhyngweithio rhwng cyfandiroedd, yr hinsawdd a lefel y môr ar raddfa amser ddaearegol
2.Yr atmosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio hanfodion ymbelydredd solar, ynni atmosfferig a'r gyllideb gwres fyd-eang a rhyngweithio prosesau allweddol yng nghydran atmosfferig y cylch dŵr - anweddu, ffurfio cymylau a dyodiad.Bydd hefyd yn archwilio cylchrediad atmosfferig byd-eang a'iddylanwad ar yr hinsawdd.
3.Yr hydrosffer: Bydd yr adran hon yn archwilio storfeydd a llwybrau'r cylch dŵr, gan gynnwys cylchrediad y cefnforoedd, dŵr ffo byd-eang a dŵr daear yn ogystal â materion adnoddau dŵr cysylltiedig ac effaith newid amgylcheddol.
Cefnogir hyn gan ddysgu gweithredol trwy sesiwn ymarferol gysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau mewn trin, dadamsoddi a chyflwyno data.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Bydd gofyn i fyfyrwyr drin data rhifyddol fel rhan o un gydran asesu.
Communication Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu adroddiad i gyfathrebu dadansoddiad o ddata ac felly bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a gweledol yn cael eu datblygu
Improving own Learning and Performance Bydd angen i fyfyrwyr addasu i arddull ddysgu fwy annibynnol a hunangyfeiriedig i gwblhau'r sesiynau ymarferol. Bydd cydrannau asesu ymarferol hefyd yn gofyn am rannu adnoddau â myfyrwyr eraill ar y cwrs, gan feithrin sgiliau gweithio mewn tîm a fydd o fudd i'w gallu i addasu a'u gwytnwch mewn amgylcheddau gweithio mewn grŵp a dysgu grŵp yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn sgiliau meddal gwerthfawr ar gyfer eu bywyd ehangach a gyrfa y tu hwnt i'r brifysgol
Information Technology Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno a dehongli data ar gyfer un asesiad, a defnyddio meddalwedd ddigidol i gwblhau'r rhain. Bydd y weithgareddasesiad hyn yn datblygu llythrennedd cyfrifiadurol. Mae darllen pellach yn rhan annatod o ddysgu dan gyfarwyddyd myfyrwyr, sy'n gofyn am gymhwysedd i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol ac ymgysylltu â nhw ar-lein a thrwy beiriannau chwilio digidol yn y llyfrgell.
Personal Development and Career planning Anogir myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu - bydd ffug arholiad anffurfiol yn annog hyn, ond ni fydd myfyrio yn cael ei asesu'n ffurfiol. Mae trin data yn sgil sy'n berthnasol i yrfaoedd yn y dyfodol. Mae'r gallu i gyfathrebu gan ddefnyddio iaith wyddonol briodol a gweithio fel rhan o dîm yn sgiliau generig a throsglwyddadwy ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n ffurfiol.
Problem solving Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau datrys problemau trwy'r pedair sesiwn ymarferol dysgu gweithredol gan gynnwys defnyddio gwefan delweddu a lawrlwytho data am y tro cyntaf. Bydd angen i fyfyrwyr benderfynu ar y ffordd orau i ddadansoddi a chyflwyno data daearyddol a daearegol yn yr ymarferion hyn, yn aml trwy broses ailadroddol o arbrofi.
Research skills Bydd gofyn i fyfyrwyr ddehongli data amgylcheddol ar gyfer un o'r sesiynau ymarferol (adroddiad ymarferol byr) a meddwl yn feirniadol hefyd am y ffyrdd gorau o gyflwyno data gwyddonol/daearyddol.
Subject Specific Skills Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r prosesau a'r rhyngweithiadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â daeareg a daearyddiaeth ffisegol y Ddaear. Bydd yn gosod y sylfaen ar gyfer astudio gwyddor daear, prosesau wyneb y ddaear, geomorffoleg a hydroleg mewn modiwlau eraill yn Rhan 1 a Rhan 2.
Team work Bydd cyfle i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd os dymunant yn ystod y sesiynau ymarferol.

Notes

This module is at CQFW Level 4