Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Module Identifier
DA25400
Module Title
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Academic Year
2027/2028
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Cerys Jones
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Tom Holt
Dr Ian Saunders
Dr Hywel Griffiths
Professor Rhys Jones
Dr Bethany Simmonds
Professor Geoff Duller
Dr Marie Busfield
Professor Bryn Hubbard
Dr Tristram Irvine-Fynn
Rhys Dafydd Jones
Professor Mark Whitehead
Dr Gareth Hoskins

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol): 2000 o eiriau 50%
Semester Assessment Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil: 1200 o eiriau 30%
Semester Assessment Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect: Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau 20%
Supplementary Assessment Gwaith cwrs: Adnabod Bwlch yn yr Ymchwil: 1200 o eiriau 30%
Supplementary Assessment Gwaith cwrs: Adroddiad gwaith maes (asesiad unigol): 2000 o eiriau 50%
Supplementary Assessment Asesiad Diwedd Modiwl: Cynnig Prosiect: Myfyrwyr i gwblhau ffurflen Cynnig Prosiect i adnabod prosiect traethawd estynedig posib. Mae'r aseiniad hwn yn adeiladu ar y cynnwys dylunio ymchwil a sgiliau gwaith maes a ddysgwyd trwy gydol Semestr 2. 800 o eiriau 20%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Nodi problemau ymchwil amserol a pherthnasol ym maes Daearyddiaeth.
  2. Dylunio strategaethau ymchwil ar gyfer casglu a dadansoddi data sy'n berthnasol i gwestiynau ymchwil penodol.
  3. Dangos hyfedredd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/dadansoddi data.
  4. Cyfleu canfyddiadau ymchwil.

Brief description

Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol mewn daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd ac ar y rhyngwyneb dynol/ffisegol, bydd y modiwl yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:
- Ysgogi gallu myfyrwyr i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, a datblygu dulliau o ddatrys neu ateb hyn trwy brofi rhagdybiaethau, dylunio ymchwil a chasglu data.
- Rhoi cyfle i gymhwyso dulliau damcaniaethol, technegol a/neu ddulliau labordy gwyddonol i'r amgylchedd maes mwy cymhleth, sydd heb ei reoli, a gwerthfawrogi sut mae prosesau y gellir eu hystyried yn 'gyffredinol' yn cael eu cyfryngu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol lle penodol.
- Ystyried agweddau moesegol prosesau ymchwil
- Ystyried diogelwch gwaith maes
- Datblygu ymdeimlad o le, ymwybyddiaeth o wahaniaeth, a goddefgarwch tuag at eraill.
- Hyrwyddo rhai sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen mewn gwaith ymarferol a seminarau, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, adnabod problemau

Content

Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflwyno trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau, a gweithdai ymarferol/ymweliadau maes. Bydd y rhain yn arwain at gyfnod estynedig o waith maes. Bydd y pynciau a drafodir a’r technegau a ddatblygir yn amrywio yn ôl carfan y myfyrwyr, gan gynnwys y canlynol:
- Effeithiau pobl ar yr amgylchedd
- Peryglon naturiol
- Dehongli'r dirwedd ddynol a ffisegol, a rhyngweithiad y ddau
- Agweddau ar newid diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd o fewn cymunedau ac sy'n amlwg mewn bywyd o ddydd i ddydd
- Newid a rheoleiddio amgylcheddol

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Ymateb i heriau annisgwyl sy'n ymwneud â dylunio ymchwil a gwaith maes; gweithio mewn amgylcheddau amrywiol ac anrhagweladwy; cydweithio â gwahanol dimau.
Creative Problem Solving Mae datrys problemau yn faen prawf allweddol ar gyfer y cwrs hwn. Mae hyn yn cynnwys adeiladu sail resymegol ar gyfer ymchwil a chynllunio ymchwil gan gyfeirio at lenyddiaeth/dadleuon/ffynonellau data sydd eisoes yn bod
Critical and analytical thinking Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau maes arsylwi a dehongli. Bydd sgiliau meddwl beirniadol yn cael eu datblygu drwy seminarau rhyngweithiol ac ymarferion maes.
Digital capability Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth i gynorthwyo â gwaith darllen pellach wrth gwblhau aseiniadau, gan gynnwys chwilio am destunau ar-lein a’u syntheseiddio, technoleg prosesu geiriau, a pharatoi ffotograffau a mapiau digidol
Professional communication Mae gwaith maes yn rhyngweithiol yn ei hanfod gyda nifer uchel o oriau cyswllt rhwng staff a myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod sgiliau cyfathrebu cryf yn cael eu datblygu, gyda digonedd o gyfleoedd am drafodaethau un-i-un a thrafodaethau mewn grŵp.
Reflection Bydd myfyrwyr yn datblygu cyfle i fyfyrio ar ddyluniad ymchwil a gwaith maes a wnaed yn rhan gyntaf y modiwl yn sail ar gyfer casglu a dadansoddi data yn ail ran/elfen gwaith maes estynedig y modiwl
Subject Specific Skills Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau sy’n ymwneud â phynciau penodol gyda’r nod o wneud ein graddedigion yn gyflogadwy ar draws amrywiaeth o sectorau

Notes

This module is at CQFW Level 5