Prosesau Rhewlifol ac Afonol
- Module Identifier
- DA25520
- Module Title
- Prosesau Rhewlifol ac Afonol
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Co-ordinator
- Dr Hywel Griffiths
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
GS25520
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad ffliwm hydrolig: Adroddiad byr 1000 o eiriau | 25% |
| Semester Exam | Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd): 2 Hours | 75% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad ffliwm hydrolig: Adroddiad byr | 25% |
| Supplementary Exam | Arholiad heb ei weld (cwestiynau byr a thraethawd): 2 Hours | 75% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Disgrifio prosesau a ffurfiau allweddol systemau dalgylch gan gynnwys rhyngweithiad llif hylif a gwaddod;
- Adnabod ac esbonio sut mae prosesau rhewlifol ac afonol yn rhyngweithio i gynhyrchu tirffurfiau a thirweddau gwahanol;
- Egluro strwythur rhwydweithiau draenio, morffoleg sianel a dynameg sianel;
- Gwerthuso problemau a strategaethau rheoli mewn dalgylchoedd hydrolegol, gan gynnwys peryglon.
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn archwilio prosesau geomorffolegol a hydrolegol sylfaenol allweddol sy’n gweithredu mewn dalgylchoedd daearol sy’n ymestyn o fynyddoedd i aberoedd, sy’n gysylltiedig yn benodol â rhewlifoedd ac afonydd. Yn gyntaf bydd y modiwl yn archwilio'r prosesau sy'n gweithredu yn yr amgylcheddau hynny ar wahân, cyn ystyried sut y gallant ddylanwadu ar geoberyglon, a ffurfiant ac esblygiad tirffurf a thirwedd.
Aims
Nod y modiwl yw:
· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol drylwyr o weithgarwch a phrosesau rhewlifol ac afonol a chanlyniadau geomorffolegol symudiad dŵr ar draws y dirwedd.
· datblygu ymwybyddiaeth gysyniadol feirniadol o'r prosesau sy'n dylanwadu ar sut mae dalgylchoedd yn ymateb yn hydrolegol ac yn geomorffolegol i newid amgylcheddol.
· defnyddio dealltwriaeth o dirweddau afonol a rhewlifol i werthuso strategaethau rheoli a fabwysiadwyd ar gyfer sianeli afonydd a dalgylchoedd ehangach, gan gynnwys ar gyfer peryglon hydrolegol.
Content
· Cydbwysedd màs rhewlif a hydroleg
· Symudiad rhewlif ac erydiad, llusg-gludo a chludiant gwaddod
· Prosesau sianeli afon – llif hylif, gwaddod ac erydiad
· Geometreg hydrolig a phatrymau sianeli afonydd
· Rheoli systemau dalgylch ac amgylcheddau hydrolegol
· Gwaith maes yn nalgylch Afon Rheidol
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Trwy bwyslais ar feintioli ffurfiau a phrosesau dalgylchoedd rhewlifol ac afonol, ac egluro llif geoffisegol o egwyddorion mecanyddol cyntaf |
| Communication | Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad. |
| Improving own Learning and Performance | Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen |
| Information Technology | Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol. Bydd siaradwr allanol o fyd ymgynghori amgylcheddol yn dangos opsiynau gyrfa. |
| Problem solving | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r systemau rhewlifol ac afonol. |
| Research skills | Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad. |
| Subject Specific Skills | Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gadael y cwrs yn ymwybodol o broblemau a datrysiadau rheoli amgylcheddol pwysig. |
| Team work | Dim |
Notes
This module is at CQFW Level 5
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
