Traethawd Estynedig: Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, a Gwyddor Daear yr Amgylchedd
- Module Identifier
- DA34000
- Module Title
- Traethawd Estynedig: Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, a Gwyddor Daear yr Amgylchedd
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Cerys Jones
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Cofrestru ar gyfer gradd sengl mewn Daearyddiaeth, Geography, Physical Geography neu Human Geography, Environmental Science, neu Environmental Earth Science. - Other Staff
- Dr Hywel Griffiths
- Dr Mitch Rose
- Professor Rhys Jones
- Dr Cerys Jones
- Professor Stephen Tooth
- Dr Tristram Irvine-Fynn
- Rhys Dafydd Jones
- Dr Gareth Hoskins
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cyflwyniad llafar: -lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu cynnydd mewn modd broffesiynol. 10 Munud | 10% |
| Semester Assessment | Adroddiad prosiect terfynol: 12000 o eiriau | 90% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad prosiect terfynol: 12000 o eiriau | 90% |
| Supplementary Assessment | Recordiad o gyflwyniad llafar: Recordiad o gyflwyniad llafar 10 munud o hyd, lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu cynnydd mewn arddull broffesiynol. | 10% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad academaidd trwyadl.
- Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd.
- Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.
- Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig sylweddol ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.
- Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol.
- Cyflwyno cyd-destun eu hastudiaeth mewn dull proffesiynol.
Brief description
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr sy'n astudio gradd sengl mewn Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, neu Gwyddor Daear yr Amgylchedd. Bydd pwnc addas sy'n berthnasol i'w gradd yn cael ei gynnig gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Ceir pedair rhan i'r prosiect: (i) dynodi pwnc ymchwil a datblygu cynllun ymchwil addas; (ii) ymchwil empiraidd i gasglu data cynradd a/neu gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil; (iii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli. Ceir cyfwyniad llafar yn semester 1, lle bydd gofyn i'r myfyrwyr gyflwyno eu cynnydd (iv) creu adroddiad terfynol 12,000 o eiriau, i'w gyflwyno yn semester 2.
Content
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr sy'n astudio gradd sengl mewn Daearyddiaeth, Gwyddor yr Amgylchedd, neu Gwyddor Daear yr Amgylchedd. Penodir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygiad y prosiect, yn ogystal â'r ffordd y bydd yn cael ei adrodd. Derbynia myfyrwyr gefnogaeth ar gyfer eu hastudiaethau annibynnol mewn sawl cyd-destun:
(i) cyfarfodydd fel unigolyn gyda'u harolygydd. Galluoga'r cyfarfodydd hyn i'r arolygydd i roi adborth a chyfarwyddyd a fydd wedi ei dargedu'n benodol ar astudiaeth y myfyriwr. Bydd y cyfarfodydd hyn yn sylfaen ar gyfer y system Tiwtor Personol ar Lefel 3;
(ii) cyfarfodydd grŵp yn ystod semester 1, a fynychir gan holl fyfyrwyr traethawd estynedig aelod o staff. Bydd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i drafod materion a fydd yn help i'r holl fyfyrwyr hyn i gwblhau eu traethawd estynedig;
(iii) darlithoedd sgiliau cyffredinol (a fydd yn cynnwys elfennau CPD arwyddocaol) ar gyfer y cwrs gradd neu ar gyfer y flwyddyn yn gyffredinol, fel y bo'n briodol. Bydd rhai o'r rhain yn sesiynau a fydd yn cefnogi'r Traethawd Estynedig, e.e. strwythuro eich traethawd estynedig, sgiliau cyflwyno, tra bydd rhai eraill yn canolbwyntio ar faterion CPD, e.g. amgyffred sgiliau a chaffael swyddi.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
| Communication | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad ysgrifenedig. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy: gwblhau'r cyflwyniad llafar; drafod yr ymchwil - fesul unigolyn ac mewn grwpiau; ac o bosib, gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol (e.e. cyfweliadau a holiaduron). |
| Improving own Learning and Performance | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn y trafodaethau unigol a grŵp. |
| Information Technology | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar (e.e. Powerpoint) ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
| Personal Development and Career planning | Datblygir sgiliau datblygiad personol fel rhan o'r sesiynau CPD a'r cyfarfodydd Tiwtor Personol sy'n rhan o'r modiwl. Yn ogystal, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn hynod drosglwyddadwy i ystod eang o yrfaoedd. |
| Problem solving | Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
| Research skills | Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil. |
| Team work | Datblygir medrau gwaith tîm yn y cyfarfodydd grŵp, e.e. ar ffurf trafodaeth. Ni fydd y medrau hyn yn cael eu hasesu'n ffurfiol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Geography and Earth Sciences,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622606 : +44 : +44 (0)1970 622021
dgostaff@aber.ac.uk: dgostaff@aber.ac.uk
