Sgiliau Cyflogadwyedd Ar Waith
- Module Identifier
- DG31000
- Module Title
- Sgiliau Cyflogadwyedd Ar Waith
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Jonathan Fry
- Reading List
- View on Aspire
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CY25620 or CY35620
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CD31020
- Other Staff
- Dr Sioned Llywelyn
- Miss Manon Charles
- Miss Annette Edwards
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad terfynol: 2000 o eiriau | 70% |
| Semester Assessment | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio: 10 Munud | 30% |
| Supplementary Assessment | Cyflwyniad Pwerbwynt wedi ei drosleisio: 10 Munud | 30% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad terfynol: 2000 o eiriau | 70% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Cymhwyso gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o’r gweithle
- Adnabod tasgau a phroblemau sy'n berthnasol i sefydliad y lleoliad gwaith a hwyluso canlyniadau priodol
- Gwerthuso eu perfformiad eu hunain a gwella ymwybyddiaeth o'u proffil sgiliau eu hun
- Ymgysylltu'n rhagweithiol gydag unigolion a grwpiau yn y sefydliad
- Datblygu'r gallu i adfyfyrio ar wybodaeth a phrofiad a gafwyd ar y lleoliad gwaith
- Cyflwyno syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac mewn cyflwyniad llafar
- Cyfathrebu a chydweithio’n effeithiol gyda chymheiriaid a gydag unigolion amrywiol yn lleoliad yr ymarfer
- Datblygu gallu mewn amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys darllen, cymathu, ymchwilio a beirniadu systemau cyfundrefnol neu sefydliadol cymhleth
- Datblygu gallu i gyfleu gwybodaeth academaidd mewn lleoliad ymarferol yn defnyddio moddau sy'n briodol i'r lleoliad gwaith, yn cynnwys cyfathrebu llafar, ysgrifenedig ac electronig
Brief description
Mae’r modiwl hwn yn cynnig profiad ymarferol a phenodol yn y gweithle i gyfoethogi cyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr yn y dyfodol. Caiff cyfleoedd eu clustnodi i fyfyrwyr weithio mewn sefydliadau masnachol, llywodraeth, awdurdod lleol neu elusennol. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i fynd ati i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd ac ar yr un pryd gyfrannu’n ystyrlon at waith y sefydliad lletyol.Bydd gofyn i’r myfyrwyr adfyfyrio ar eu datblygiad personol a phroffesiynol.
Ni ellir sicrhau lle ar y modiwl ar gyfer unrhyw fyfyriwr a gellir cynnal cyfweliadau er mwyn cynnig llefydd.
Aims
Nod y modiwl yw cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad gwaith o fewn y Brifysgol neu gyda sefydliad allanol. Mae’n sicrhau bod myfyrwyr yn ymwneud â darnau real o waith neu brosiectau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi a’u defnyddio ac sy’n adlewyrchu anghenion ac arferion cyfredol yn y gweithle.
Content
Dysgir y modiwlau tros ddau semestr. Dysgir y modiwl trwy brofiad gwaith ac yn ystod 8 seminar o 1 awr yr un. Disgwylir i’r profiad gwaith gymeryd lle yn rheolaidd. Cydlynydd y modiwl fydd yn trefnu’r profiad gwaith gan amlaf ond gall myfyrwyr ddod o hyd i’w profiad gwaith ei hunain e.e. yn ystod gwyliau’r haf cyn iddynt ddechrau eu trydydd flwyddyn, cyn belled eu bod wedi llwyddo yn yr ail flwyddyn. Mae’n angenrheidiol fod cydlynydd y modiwl yn cymeradwyo’r profiad gwaith ymlaen llaw. Er mwyn i’r profiad gwaith gael ei gymeradwyo mae’n rhaid i’r myfyrwyr gwblhau o leiaf 80 awr o waith. Disgwylir i’r myfyrwyr ymgymeryd mewn gwaith ymchwil ar gyfer paratoi ac ysgrifennu adroddiad o 2,000 o eiriau. Dylai’r adroddiad am y profiad gwaith asesu dealltwriaeth myfyrwyr o’r prosiectau maent wedi bod yn ran ohonynt ac asesu eu gallu i fyfyrio ar ganlyniadau y profiad gwaith.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Defnydd effeithiol o wahanol fathau o gyfathrebu, sy’n cynnwys yr adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar. Yn ogystal a hyn, caiff cyfathrebu ar lafar ei annog a’i ddatblygu yn ystod trafodaethau rhyngweithiol mewn seminarau ac yn ystod rhyngweithio gyda chyd-weithwyr a chleientiaid/neu gleientiaid yn y lleoliad profiad gwaith. |
| Improving own Learning and Performance | Bydd derbyn asesiad fel canlyniad i’r adroddiad terfynol a’r cyflwyniad llafar yn cynyddu hunan-ymwybyddiaeth a’r gallu i hunan-fyfyrio yn feirniadaol. |
| Information Technology | Ceir trwy weithgareddau yn ystod y profiad gwaith. |
| Personal Development and Career planning | Bydd dysgu trwy gydol y modiwl yn arfogi’r myfyrwyr gyda’r gwybodaeth angenrheidiol, y sgiliau trosglwyddiadwy a’r hyder i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Saif y modiwl yn gadarn ar gyfer ehangu dysgu’r myfyrwyr yn y meysydd hyn. Yn wir, dyna’r ethos sy’n sail i’r modiwl yma. |
| Problem solving | Yn ystod y Profiad Gwaith bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddatrus llawer o broblemau ymarferol a all godi a fydd yn cynyddu eu sgiliau datrus problemau ymarferol a beirniadol |
| Research skills | Bydd sgiliau ymchwil myfyrwyr yn cael eu datblygu trwy eu defnydd o lenyddiaeth ymchwil. |
| Subject Specific Skills | Bydd datblygu sgiliau pynciol penodol yn agwedd ar gyfer pob myfyriwr ond bydd cynnwys ac ehangder y sgiliau yma’n dibynu ar y lleoliad profiad gwaith. |
| Team work | Fel rheol, dibyna sefydliadau ar weithio fel tim felly bydd y modiwl, wrth reswm, yn cynyddu sgiliau gweithio mewn tim. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
